Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliau'r banc - Gofal iechyd cymunedol

Dyma atgoffa cleifion sut i gael gafael ar driniaeth gofal iechyd cymunedol dros Wyliau'r Banc. 

Mae systemau mewn lle i sicrhau y gall cleifion ledled Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro gael gafael ar ofal meddygfeydd y tu allan i oriau, triniaeth ddeintyddol frys a gwasanaethau fferyllol.

Fferyllfeydd

Dylai cleifion gasglu presgripsiynau amlroddadwy cyn y gwyliau a sicrhau bod ganddynt ddigon o feddyginiaeth y gellir ei phrynu heb bresgripsiwn er mwyn trin cyflyrau fel annwyd, y ffliw, diffyg traul (indigestion) a phoenau arferol.

Gwiriwch amseroedd agor eich fferyllydd arferol cyn y gwyliau, edrychwch yn eich papur newydd lleol neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 111.

Cliciwch yma i weld y dudalen fferyllfa ar gyfer amseroedd agor gwyliau'r banc (agor mewn dolen newydd)

 

Deintyddiaeth

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi trefnu sesiynau deintyddol brys ar gyfer problemau deintyddol acíwt.  

Rhoddir triniaeth drwy apwyntiad yn unig a dylai cleifion ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 neu cliciwch yma i fynd i Galw Iechyd Cymru (agor mewn dolen newydd) i gael gwybod sut i gael gafael ar y gwasanaethau. Dylai cleifion sy'n derbyn gofal deintyddol rheolaidd gysylltu â'u deintyddfa os bydd angen gofal brys arnynt ar ddiwrnodau nad ydynt yn wyliau'r banc.

 

Optometreg

Dylai cleifion ag angen brys ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 neu cliciwch yma i fynd i Galw Iechyd Cymru (agor mewn dolen newydd) i gael gwybod sut i gael gafael ar y gwasanaethau a chymorth.


Meddygfeydd y tu allan i oriau

Atgoffir cleifion y dylent wneud apwyntiadau am faterion arferol, fel presgripsiynau amlroddadwy a mân anhwylderau, cyn Gwyliau'r Banc.

Rhoddir gofal meddygol brys dros Wyliau'r Banc drwy'r gwasanaeth meddygfeydd y tu allan i oriau arferol. Os bydd angen i gleifion weld meddyg am fod ganddynt broblem feddygol frys neu ddifrifol na all aros hyd nes bod y feddygfa yn agor, dylent ffonio eu meddygfa leol i gael gwybod sut i gael mynediad i'r gwasanaeth y tu allan i oriau, neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111.

Dylai cleifion ffonio 999 neu fynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty lleol - dim ond am argyfyngau gwirioneddol. 

 

Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

Cliciwch yma am fanylion clinigau iechyd rhywiol (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: