Pwy all wneud atgyfeiriad ar gyfer fy mhlentyn?
Yn anffodus, ni allwch chi na gofalwr wneud hunanatgyfeiriad ar gyfer eich plentyn yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gallwn dderbyn atgyfeiriadau gan unrhyw weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu addysg fel athrawon, seicolegwyr addysgol, meddygon teulu, pediatregwyr, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol.
Pa mor hir y gallaf ddisgwyl aros i'm plentyn gael ei asesu?
Yn anffodus, oherwydd y galw digynsail, mae ein hamseroedd aros yn sylweddol hir, ac ni allwn roi amser penodol pryd y bydd eich plentyn yn cael ei weld.
Byddwch yn dawel eich meddwl yn y cyfamser, gallwch chi a'ch plentyn gael mynediad at gefnogaeth tra byddwch yn aros a hynny trwy'r ysgol, gwybodaeth leol, gwasanaethau cyngor a chymorth a'n tîm.
Mae symptomau fy mhlentyn yn dod yn afreolus, a oes ffordd iddynt gael eu gweld yn gynt?
Mae galw mawr am ein gwasanaeth. Dim ond ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (plentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol) neu blant sy'n cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yr ydym yn cyflymu asesiadau. Rydym yn cynnig cefnogaeth tra bod eich plentyn yn aros gan gynnwys ein gweithdy cyn-ddiagnostig a'n hybiau cyngor awtistiaeth.
Gallwch hefyd gael mynediad at gymorth o'r gwefannau canlynol drwy glicio ar y dolenni isod:
National Autistic Society - NAS - Saesneg yn unig (agor mewn dolen newydd)
Niwrowahaniaeth Cymru (agor mewn dolen newydd)
Sut fydda i'n gwybod bod fy mhlentyn wedi cael ei dderbyn ar y rhestr aros?
Rydym yn anfon llythyr i roi gwybod i rieni a yw eu plentyn wedi cael ei dderbyn ar y rhestr aros ai peidio.
Rwyf ar y rhestr aros, ond rwy'n cael anhawster i reoli symptomau fy mhlentyn. Oes yna unrhyw le y gallaf fynd i gael cyngor?
Mae gwybodaeth ar waelod y dudalen hon am wasanaethau cymorth a all eich helpu i ddeall awtistiaeth a rheoli agweddau ar ymddygiad eich plentyn y gallech eu cael yn anodd. Cysylltwch â ni os ydych chi am siarad â gweithiwr cymorth arbenigol trwy ein hybiau Cyngor Awtistiaeth neu archebu lle mewn gweithdy tra byddwch chi'n aros am asesiad eich plentyn.
Cliciwch yma am wybodaeth ar wasanaethau cymorth (agor mewn dolen newydd).
Atgyfeiriwyd fy mhlentyn cyn y dyddiad atgyfeirio presennol, a fyddwn i'n gallu ôl-ddyddio'r atgyfeiriad hwn?
Os byddwch chi'n darparu copi o'r atgyfeiriad gwreiddiol, efallai y byddwn ni'n gallu ôl-ddyddio atgyfeiriad eich plentyn.
Nid yw fy mhlentyn yn cael cefnogaeth yn yr ysgol gan nad yw wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth, beth alla i ei wneud?
O dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018), mae dyletswydd statudol ar ddarparwyr addysg bellach i ddarparu cefnogaeth, yn dibynnu ar anghenion yn hytrach na diagnosis. Gallwch drefnu cyfarfod gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (ALNCO) eich ysgol i drafod eich pryderon.
Ble mae fy mhlentyn ar y rhestr aros?
Yn anffodus, ni allwn ddarparu'r wybodaeth hon. Gallwn ddarparu gwybodaeth ynghylch pryd y cawsom atgyfeiriad eich plentyn a'r amseroedd aros presennol.
Mae fy mhlentyn yn troi'n 18 oed yn fuan, a fyddant yn aros ar y rhestr aros plant, neu a fydd angen i mi wneud cais i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Oedolion?
Bydd eich plentyn yn aros ar restr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Plant nes iddynt gwblhau eu proses asesu. Mae'r clinigwyr yn y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Plant wedi'u hyfforddi i asesu awtistiaeth mewn plant ac oedolion.
Rwy'n ystyried mynd at ddarparwr preifat - allwch chi fy helpu i ddewis?
Fel sefydliad GIG a ariennir yn gyhoeddus, ni allwn argymell darparwyr preifat penodol.