Neidio i'r prif gynnwy

Awtistiaeth Plant

Mae ein tîm o ymarferwyr arbenigol o nifer o wahanol broffesiynau yn cynnwys seicolegydd clinigol, seiciatrydd, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol, nyrsys arbenigol a gweithwyr cymorth niwro-amrywiol arbenigol. Cefnogir y tîm gan bediatregwyr cymunedol. 

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng dwy flwydd oed ac 17 blwydd a naw mis oed sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Sylwch nad ydym yn wasanaeth brys. 

Os oes pryderon ynghylch iechyd meddwl plentyn ac rydych chi'n poeni am ei ddiogelwch uniongyrchol oherwydd hunan-niweidio neu hunanladdiad, cysylltwch â 999 neu ewch â'r plentyn i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Fel arall, gallwch siarad â meddyg teulu eich plentyn.

Os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad eich plentyn ac yn cael agweddau ar hyn yn heriol, cysylltwch â'ch gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol. Byddant yn eich cyfeirio at ystod o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chymorth.

Rhif ffôn gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth lleol: 0300 333 2222

 

Cysylltu â'r wasanaeth

Mae ein gwasanaeth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm. Rydym yn cynnig apwyntiadau ac yn ateb galwadau ffôn o fewn yr oriau hyn. 

Cyfeiriad: Tŷ Gwili, Heol Bronwydd, Caerfyrddin SA31 2AJ

Ffôn: 01267 283077

Ebost: ChildASD.referrals@wales.nhs.uk

 

Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol

 
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: