Neidio i'r prif gynnwy

Faint o asid ffolig ddylwn i ei gymryd yn ystod beichiogrwydd?

Cynghorir y rhan fwyaf o bobl i gymryd 400 microgram o asid ffolig bob dydd.

Efallai y bydd angen i rai pobl gymryd mwy o asid ffolig, er enghraifft, os ydych chi:

  • (neu riant arall y babi) wedi cael spina bifida;
  • wedi cael babi blaenorol gyda spina bifida;
  • (neu riant arall y babi) â hanes teuluol o namau ar y tiwb niwral;
  •  
  • â diabetes; bod â Mynegai Màs y Corff (BMI) uchel sydd dros 30;
  • yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer epilepsi; yn cymryd meddyginiaeth gwrth-retroviral ar gyfer HIV.

Gall eich meddyg teulu ragnodi dos uwch i chi os bydd ei angen arnoch a'ch bod yn cynllunio beichiogrwydd, neu yng nghamau cynnar beichiogrwydd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: