Mae yna ffyrdd gwahanol o fonitro baban, gan gynnwys y canlynol:
- Stethosgop Pinard, sef math o drwmped clust a roddir ar eich abdomen fel y gall y fydwraig glywed a chyfrif curiad calon y baban.
- Doppler neu Sonicaid, sef peiriant cludadwy bach sy'n defnyddio uwchsain trwy drosglwyddydd-derbynnydd bach ar eich abdomen i godi curiad calon y baban.
- Monitro'r Ffetws yn Electronig (EFM)
- Telemetreg