Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w ddisgwyl yn eich apwyntiad bwcio?

Bydd yn cymryd rhyw awr i gwblhau eich apwyntiad cyntaf a elwir yn apwyntiad bwcio. Bydd yr apwyntiad hwn yn cael ei gynnal dros y ffôn neu wyneb yn wyneb â’ch bydwraig gymunedol. Bydd yn eich ffonio i drefnu amser sy’n gyfleus i chi.

Bydd y fydwraig gymunedol yn gofyn llawer o gwestiynau i chi am eich iechyd, eich ffordd o fyw, a’r profion sgrinio y byddech yn hoffi eu cael yn ystod eich beichiogrwydd. Byddwch yn barod i ateb y cwestiynau a ganlyn:

Bydd eich bydwraig gymunedol yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf, pryd y bydd eich profion sgrinio’n cael eu cynnal, a phryd y gallwch ddisgwyl clywed am eich sgan dyddio.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: