Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng oedi cyn clampio'r llinyn bogail a godro'r llinyn bogail?

Mae oedi cyn clampio’r llinyn bogail yn broses naturiol lle mae’r gwaed yn trosglwyddo o’r llinyn i’r baban heb unrhyw gymorth gan weithwyr iechyd proffesiynol.

Ond os bydd y fydwraig neu’r meddyg yn gwthio’r gwaed drwy’r llinyn bogail er mwyn ei drosglwyddo’n gyflymach, gelwir hyn yn odro’r llinyn. Mae’n dechneg ddiogel, ond dim ond pan fydd angen i’r broses ddigwydd yn gyflymach y bydd hyn fel arfer yn digwydd, a hynny fel arfer os oes angen cymorth ar y baban i anadlu.

Gall godro’r llinyn hefyd fod yn ddewis gwell i fabanod sy’n cael eu geni cyn 28 wythnos.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: