Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Gofynnwch i'ch bydwraig gymunedol pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda’ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy am y brechlynnau a sut y gallant helpu i’ch diogelu chi a’ch babi. Mae'n ddiogel cael yr holl frechlynnau yn yr un apwyntiad os yw'n briodol. 

Os byddwch yn sâl pan fydd eich apwyntiad i fod, mae'n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlynnau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: