Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Llesiant Seicolegol Staff

Mae ein gwasanaeth yn cefnogi ein staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda lles emosiynol ac iechyd meddwl yn y gwaith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, adnoddau a chyfeirio. Ein nod yw helpu i adeiladu diwylliant o les, gwytnwch a hunanofal effeithiol ar draws ein holl wasanaethau a thimau yn y sefydliad.

Mae hwn yn gyfnod heriol tu hwnt, ac mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gofalu’n dda ohonom ein hunain a’n gilydd.

Mae'n werth cymryd yr amser - yn rheolaidd, i wirio sut rydych chi'n teimlo. Os ydych chi'n teimlo'n dda, beth allwch chi ei wneud i barhau i deimlo felly? Ac os nad ydych chi'n teimlo'n wych ac efallai'n dechrau cael trafferth ychydig, beth allech chi ei wneud a allai helpu?

Nid yw bob amser yn hawdd gwybod ble i chwilio am syniadau felly rydym wedi dod â rhai awgrymiadau syml ynghyd, yn dibynnu ar sut rydych chi'n teimlo.
 

Archwiliwch yr awgrymiadau isod - mae'n siŵr y bydd rhywbeth defnyddiol i gefnogi eich lles yn y gwaith. Mae rhai adnoddau ar fewnrwyd y staff hefyd, bydd dolenni ar gael ar y tudalennau hyn, ond dim ond os ydych ar rwydwaith y GIG y byddwch yn gallu cael mynediad atynt. Dim ond yn Saesneg y bydd rhai dolenni ar gael.

Cysylltwch â ni:

Ffôn: 01437 772527

Ebost: wellbeing.HDD@wales.nhs.uk

Sut ydw i'n teimlo a beth allai fy helpu?

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: