Neidio i'r prif gynnwy

Proffylacsis ôl-amlygiad yn dilyn amlygiad rhywiol (PEPSE)

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV trwy gael rhyw, mae gennym ni feddyginiaeth i chi a allai eich helpu i atal rhag dal HIV. Gelwir y feddyginiaeth hon yn PEPSE, sef proffylacsis ôl-amlygiad yn dilyn amlygiad rhywiol.

Mae'n bwysig ceisio cymorth cyn gynted â phosib. Yn ddelfrydol o fewn oriau yn hytrach na dyddiau. Mae'r meddyginiaethau'n fwy effeithiol pan gânt eu cymryd yn gynharach ac efallai na fyddant yn gweithio os cânt eu cymryd dridiau neu fwy ar ôl cael rhyw.

Anganfyddadwy = Anhrosglwyddadwy

Os oes gan eich partner HIV ac nad oes gennych chi, mae yna ffyrdd o leihau'r risg o drosglwyddo HIV yn ystod rhyw. Dylai eich partner gymryd meddyginiaeth HIV. Dyma un o'r ffyrdd gorau o atal trosglwyddo HIV.

Os bodlonir yr amodau canlynol, nid oes unrhyw siawns o drosglwyddo HIV trwy ryw:

  • Mae eich partner HIV positif yn cymryd ei feddyginiaeth HIV bob dydd.
  • Maent wedi bod yn cymryd meddyginiaeth HIV ers o leiaf 6 mis ac mae ganddynt lwyth firaol na ellir ei ganfod.
  • Maent yn parhau i gymryd eu meddyginiaethau HIV heb golli dosau.

Anafiadau pigiad nodwydd a mathau eraill o amlygiad

Cysylltwch â'n tîm iechyd galwedigaethol (agor mewn dolen newydd) neu'ch meddyg teulu, os oes angen proffylacsis ôl-amlygiad arnoch yn dilyn amlygiad iechyd galwedigaethol, anaf o nodwyddau neu debyg. Gallwch hefyd fynd i'n hadran achosion brys yn ôl yr angen.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: