Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dod i gysylltiad â HIV trwy gael rhyw, mae gennym ni feddyginiaeth i chi a allai eich helpu i atal rhag dal HIV. Gelwir y feddyginiaeth hon yn PEPSE, sef proffylacsis ôl-amlygiad yn dilyn amlygiad rhywiol.
Mae'n bwysig ceisio cymorth cyn gynted â phosib. Yn ddelfrydol o fewn oriau yn hytrach na dyddiau. Mae'r meddyginiaethau'n fwy effeithiol pan gânt eu cymryd yn gynharach ac efallai na fyddant yn gweithio os cânt eu cymryd dridiau neu fwy ar ôl cael rhyw.
Os oes gan eich partner HIV ac nad oes gennych chi, mae yna ffyrdd o leihau'r risg o drosglwyddo HIV yn ystod rhyw. Dylai eich partner gymryd meddyginiaeth HIV. Dyma un o'r ffyrdd gorau o atal trosglwyddo HIV.
Os bodlonir yr amodau canlynol, nid oes unrhyw siawns o drosglwyddo HIV trwy ryw:
Cysylltwch â'n tîm iechyd galwedigaethol (agor mewn dolen newydd) neu'ch meddyg teulu, os oes angen proffylacsis ôl-amlygiad arnoch yn dilyn amlygiad iechyd galwedigaethol, anaf o nodwyddau neu debyg. Gallwch hefyd fynd i'n hadran achosion brys yn ôl yr angen.