Erthyliad yw'r broses feddygol o ddod â beichiogrwydd i ben. Mae dau fath o erthyliad: erthyliad meddygol ac erthyliad llawfeddygol. Mae erthyliad yn weithdrefn feddygol gyffredin ac mae'n gyfreithlon cyn 24 wythnos o feichiogrwydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Os ydych chi'n ystyried erthyliad, ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ein ffonio i drafod eich opsiynau yn gyfrinachol.
Gorau po gyntaf y byddwch yn ein ffonio, oherwydd efallai y bydd amser cyfyngedig i wneud rhai penderfyniadau clinigol diogel.
Efallai y byddwch chi'n gwybod ar unwaith nad ydych chi am barhau â'r beichiogrwydd, ond yn aml mae pobl yn teimlo'n ansicr neu'n ddryslyd i ddechrau. Gall fod yn dda o beth siarad am eich teimladau gyda rhywun arall nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'ch sefyllfa.
Ffoniwch ni am gyngor, neu i wneud eich apwyntiad eich hun ar 01267 248674 .
Os byddai'n well gennych siarad â'ch meddyg teulu eich hun yn gyntaf, gallant hefyd eich cyfeirio at ein gwasanaeth ni.