Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros?

Bydd hyd yr amser y bydd yn rhaid i chi aros yn dibynnu ar eich triniaeth benodol a'ch angen clinigol. Rydym yn gweithio i drin pobl cyn gynted â phosibl drwy gynyddu nifer y bobl y gellir eu gweld bob dydd.

Gelwir hyd yr amser y byddwch yn aros am eich triniaeth yn llwybr atgyfeirio i driniaeth (RTT). Mae’r llwybr RTT yn cynnwys amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau, neu weithdrefnau eraill a all fod eu hangen cyn i chi gael eich trin.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amseroedd aros ledled Cymru yma (yn agor mewn tab newydd)

Pam na allwch ddweud wrthyf yn union pa mor hir y mae'n rhaid i mi aros?

Mae amseroedd aros a rhestrau yn gwella ar ôl COVID-19 ac maent yn newid yn gyson. Gall fod yn anodd iawn i’ch clinigwr ysbyty neu’ch meddyg teulu ddweud pryd yn union y cewch eich gweld.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: