Os ydych chi'n glaf ac yn teithio i neu o'r ysbyty, bydd disgwyl i chi fel arfer drefnu eich cludiant eich hun - boed hynny'n gyrru, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu ofyn am help gan deulu a ffrindiau.
Pan nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cludo cleifion, yn gallu defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol neu gael cymorth gyda chostau teithio.