Neidio i'r prif gynnwy

'Sylw yn ôl symptomau' Canllaw Cleifion

Beth yw apwyntiad Sylw yn ôl Symptomau? (SOS)

Mae’n bosibl bod eich clinigwr wedi eich cynghori eich bod yn glaf “sylw yn ôl symptom”. Mae hyn yn golygu bod gennych gyflwr tymor byr ac nad oes angen apwyntiad dilynol arferol am nifer o resymau. Efallai bod eich triniaeth wedi'i chwblhau neu fod eich cyflwr yn cael ei reoli'n dda ac nid oes angen ymyriad clinigol pellach ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, os cewch unrhyw broblemau gyda'ch triniaeth neu os bydd eich cyflwr yn gwaethygu gallwch gysylltu â ni o hyd. Bydd eich clinigwr wedi dweud wrthych y gallwch gysylltu â ni a gofyn am apwyntiad ““sylw yn ôl symptom”. Bydd hyn o fewn amserlen a ddarperir gan eich clinigwr am hyd at flwyddyn.

 

Sut byddaf yn gwybod pa symptomau i edrych amdanynt a sut gallaf gysylltu â chi?

Cyn cael eich rhyddhau, byddwch wedi cael gwybod pa symptomau i fod yn ymwybodol ohonynt a pha amserlen y byddent yn disgwyl i'r rhain ddigwydd. Bydd hyn yn cael ei restru yn eich llythyr rhyddhau. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr neu os byddwch yn profi ‘fflêr’ o’ch symptomau, mae angen i chi gysylltu â’ch tîm clinigol.

Gallwch wneud hyn naill ai drwy ddefnyddio'r rhif ffôn ar y llythyr neu drwy ein Canolfan Gyswllt.

 

Ein rhif ffôn Canolfan Gyswllt yw 0300 303 9642.

Dydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am tan 6.00pm (ac eithrio gwyliau banc)

Pan fyddwch yn ffonio, gofynnwch am apwyntiad “sylw yn ôl symptom”.

Ar gyfer unrhyw geisiadau am driniaeth newydd, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gyntaf.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gofyn rhywfaint o wybodaeth i chi, megis:

  • eich rhif cyfeirnod ysbyty (a geir ar frig unrhyw ohebiaeth ysbyty);
  • eich dyddiad geni;
  • eich manylion cyswllt;
  • enw'r arbenigedd a'r cyflwr yr ydych yn gwneud cais am apwyntiad “sylw yn ôl symptom” ar ei gyfer.

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad wedyn yn trefnu i aelod o’r tîm clinigol gysylltu â chi i drafod eich symptomau. Byddant yn rhoi cyngor ac arweiniad ar beth i'w wneud nesaf.

Gallant drefnu profion pellach, os oes angen, neu drefnu apwyntiad i adolygu eich triniaeth neu gyflwr.

 

Beth yw manteision apwyntiad “sylw yn ôl symptom”?

Mae “sylw yn ôl symptom” wedi'i gynllunio i'ch cefnogi a'ch annog i fod yn berchen ar eich gofal iechyd ar y cyd. Bydd yn eich helpu i hunanreoli eich penderfyniadau gofal a rhannu'r penderfyniadau a wneir gyda'ch clinigwyr.

Mae hefyd yn ein helpu i ryddhau argaeledd apwyntiadau i gleifion, fel eich bod yn cael eich gweld ar yr amser iawn.

Rydym yn ceisio gwella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â’n cleifion yn barhaus, gan helpu i leihau’r angen i deithio i safle ysbyty. Er enghraifft, efallai y byddwn yn defnyddio ymgynghoriadau ffôn a fideo ar gyfer eich apwyntiadau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: