Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i Gleifion 'Apwyntiadau Dilynol a Ysgogir gan y Claf'

Beth yw ‘Apwyntiadau Dilynol a Ysgogir gan y Claf’?

Mae’n bosibl bod eich clinigwr wedi eich cynghori eich bod yn glaf "Apwyntiad Dilynol a ysgogir gan y Claf". Mae hyn yn golygu bod gennych gyflwr hirdymor ond nid oes angen apwyntiad dilynol arferol am nifer o resymau. Efallai bod eich triniaeth wedi'i chwblhau neu fod eich cyflwr yn cael ei reoli'n dda ac nid oes angen ymyriad clinigol pellach ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, os cewch unrhyw broblemau gyda'ch triniaeth gallwch gysylltu â ni o hyd. Bydd eich clinigwr wedi dweud wrthych y gallwch gysylltu â ni a gofyn am “Apwyntiad Dilynol a ysgogir gan y Claf”.

 

Sut byddaf yn gwybod pa symptomau i edrych amdanynt a sut gallaf gysylltu â chi?

Cyn cael eich rhyddhau, byddwch wedi cael gwybod pa symptomau i fod yn ymwybodol ohonynt. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr neu os byddwch yn profi ‘fflêr’ o’ch symptomau, mae angen i chi gysylltu â’ch tîm clinigol.

Gallwch wneud hyn naill ai drwy ddefnyddio'r rhif ffôn ar y llythyr neu drwy ein Canolfan Gyswllt.

 

Ein rhif ffôn Canolfan Gyswllt yw 0300 303 9642.

Dydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am tan 6.00pm (ac eithrio gwyliau banc)

Pan fyddwch yn ffonio, gofynnwch am “Apwyntiad Dilynol a ysgogir gan y Claf”.

Ar gyfer unrhyw geisiadau am driniaeth newydd, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall yn gyntaf.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad yn gofyn rhywfaint o wybodaeth i chi, megis:

  • eich rhif cyfeirnod ysbyty (a geir ar frig unrhyw ohebiaeth ysbyty);
  • eich dyddiad geni;
  • eich manylion cyswllt;
  • enw'r arbenigedd a'r cyflwr yr ydych yn gwneud cais am apwyntiad “dilynol a gychwynnir gan y claf” ar ei gyfer.

Bydd y sawl sy’n delio â’r alwad wedyn yn trefnu i aelod o’r tîm clinigol gysylltu â chi i drafod eich symptomau. Byddant yn rhoi cyngor ac arweiniad ar beth i'w wneud nesaf.

Gallant drefnu profion pellach, os oes angen, neu drefnu apwyntiad i adolygu eich triniaeth neu gyflwr.

 

Beth yw manteision apwyntiad “dilynol a gychwynnir gan y claf”?

Mae “apwynriad dilynol dilynol a ysgogir gan y claf” wedi'i gynllunio i'ch cefnogi a'ch annog i fod yn berchen ar eich gofal iechyd ar y cyd. Bydd yn eich helpu i hunanreoli eich penderfyniadau gofal a rhannu'r penderfyniadau a wneir gyda'ch clinigwyr.

Mae hefyd yn ein helpu i ryddhau argaeledd apwyntiadau i gleifion, fel eich bod yn cael eich gweld ar yr amser iawn.

Rydym yn ceisio gwella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â’n cleifion yn barhaus, gan helpu i leihau’r angen i deithio i safle ysbyty. Er enghraifft, efallai y byddwn yn defnyddio ymgynghoriadau ffôn a fideo ar gyfer eich apwyntiadau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: