Bwriad y gwasanaeth hwn yw gwella gofal cleifion trwy gefnogi cleifion sydd â phroblemau o ran eu cymalau, eu cyhyrau, eu ligamentau, eu tendonau a'u hesgyrn, a/neu sensitifrwydd o ran y system nerfol. Nid yw'n cymryd lle'r gwasanaethau ffisiotherapi a phodiatreg presennol.
Bydd eich Darparwr Gofal Iechyd (e.e. meddyg teulu) yn eich atgyfeirio at CMATS pan fyddwch wedi rhoi cynnig gyntaf ar ddulliau eraill o reoli eich cyflwr, gan gynnwys cyngor, meddyginiaeth neu gael eich atgyfeirio at therapïau.