Caiff CMATS ei ddarparu gan dîm arbenigol o Ffisiotherapyddion a Phodiatregwyr sydd ag Ymarfer Uwch mewn cyflyrau cyhyrysgerbydol/orthopedig. Bydd yn eich helpu i ddeall achos eich symptomau a, phan fyddwch y gallu gwneud hynny, yn eich grymuso i hunanreoli eich cyflwr. Gall y tîm drefnu archwiliadau (pelydr X, MRI, sganiau uwchsain, profion gwaed), yn ogystal â darparu triniaethau penodol megis pigiadau steroidau.
Os bydd triniaeth bellach yn ofynnol i'ch helpu i reoli eich cyflwr, gall y tîm hefyd eich atgyfeirio at raglenni ffisiotherapi, podiatreg, deieteg, a rheoli poen/pwysau, yn ogystal â'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS). Os bydd barn ymgynghorydd yn ofynnol, bydd yn eich atgyfeirio at yr arbenigedd priodol.