Neidio i'r prif gynnwy

Adrannau brys

Pryd i ymweld ag adran adrannau brys

Ffoniwch 999 os ydych chi, neu rywun gyda chi, yn profi argyfwng sy'n peryglu bywyd neu wedi profi trawma difrifol.

Mae adrannau brys (a elwir hefyd yn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys) yn trin cyflyrau brys a chyflyrau sy'n peryglu bywyd ac maent ar gyfer y cleifion sydd fwyaf sâl neu wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Cyn i chi fynychu, ystyriwch a all gwasanaeth arall ddarparu'r gofal sydd ei angen arnoch. 

Mae ein hadrannau brys wedi'u lleoli yn ysbytai Bronglais, Glangwili, a Llwynhelyg. Maent ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Efallai y byddwch yn profi arosiadau hir gan ein bod yn blaenoriaethu'r cleifion mwyaf sâl ac wedi'u hanafu'n ddifrifol. Am amseroedd aros cyfredol ar gyfer yr adran achosion brys yn eich ardal, ewch i  Fy Adran Damweiniau ac Achosion Brys  - Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys GIG Cymru (agor mewn dolen newydd).

Mewn achos o argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd fel:

  • Poen yn y frest neu anhawster anadlu
  • Arwyddion strôc
  • Colli ymwybyddiaeth
  • Colli gwaed difrifol
  • Tagu
  • Ffitiau/confylsiynau
  • Boddi
  • Adweithiau alergaidd difrifol
     

Diolch i chi am drin ein staff â charedigrwydd. Nid ydym yn goddef trais na cham-drin o unrhyw fath tuag at ein staff.


Helpwch ni i'ch helpu chi

Ydych chi'n ansicr a yw adran achosion brys yn addas ar gyfer eich anghenion? Mae gwybodaeth am wasanaethau amgen sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gael ar ein tudalen we Helpwch ni i'ch helpu chi yma (yn agor mewn tab newydd).

Weithiau mae pobl yn mynd i adran achosion brys pan nad yw eu salwch neu anaf yn argyfwng meddygol neu'n argyfwng sy'n peryglu bywyd.

Byddwch yn cael gwybod a all gwasanaeth gofal iechyd arall yn lleol ymdrin â'ch salwch neu anaf. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am sut i gael mynediad at y gwasanaeth(au) sy'n fwy priodol ar gyfer eich anghenion.

Bydd hyn yn ein helpu i gadw'r gwasanaeth ar gyfer y bobl sydd fwyaf sâl ac wedi'u hanafu'n ddifrifol.

dwylo dyn

Caplaniaeth

Mae tîm y gaplaniaeth yn cefnogi cleifion, staff ac ymwelwyr.

Meddyg a chlaf yn siarad

Cludiant cleifion

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth neu gael help gyda'r gost…

Menyw ar cyfrifiadur

Cysylltwch