Prosiectau'r Clwstwr Tywi Taf

Dysgwch am y meysydd ffocws allweddol rydym yn gweithio arnynt a'r prosiectau sydd wedi'u lansio gan y clwstwr i gefnogi eich llesiant.

Gwasanaeth seicoleg menopos ac Anhwylder Dysfforig Cyn-mislif (PMDD) gwell

Mae hwn yn wasanaeth seicoleg gofal sylfaenol arbenigol ar gyfer cleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfa o fewn Clwstwr Tywi Taf. Mae'n darparu asesiad seicolegol a chymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fenywod sy'n profi anawsterau emosiynol a seicolegol sy'n gysylltiedig â'r menopos neu PMDD. Gall yr anawsterau hyn gynnwys pryder, hwyliau isel, straen, hunan-barch is, anawsterau perthynas, niwl ymennydd, blinder, teimlo’n boeth a chwysu nos.

Darllen mwy am PMDD yma(agor mewn tab newydd)

Datblygwyd y gwasanaeth i fynd i'r afael â'r angen am gefnogaeth seicolegol arbenigol o fewn gwasanaethau iechyd menywod. Ei nod hefyd yw gwella lles emosiynol ac ansawdd bywyd. Darperir cefnogaeth drwy raglenni grŵp Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Mae cleifion yn mynychu apwyntiad asesu untro cyn ymuno â grŵp menopos saith sesiwn neu grŵp PMDD wyth sesiwn. Cynhelir sesiynau'n wythnosol, maent yn para 90 munud, ac fe'u darperir o bell drwy Microsoft Teams.

Arweinydd Prosiect: Dr Madeleine Rees, Seicolegydd Clinigol.

Proses Atgyfeirio:

Gellir gwneud atgyfeiriadau gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu drwy hunanatgyfeirio.

Ar gyfer hunan-gyfeirio, cysylltwch â ClinicalHealth.Psychology.HDD@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267239714.