Ewch i fferyllfa helpa fi i stopio i gael cymorth a chyngor cyfeillgar i’ch helpu i roi’r gorau iddi.
Pan fyddwch chi’n penderfynu stopio smygu, fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Mae fferyllfeydd Helpa Fi I Stopio yn cynnig cymorth lleol am ddim sy’n llwyddo.
Gall fferyllfeydd helpa fi i stopio gynnig:
- Apwyntiadau stopio smygu un-i-un sy’n hyblyg a chyfleus yn y fferyllfa
- Cymorth ymddygiadol arbenigol a gynhelir gan gynghorydd stopio smygu cymwys
- Gwybodaeth am therapi disodli nicotin
Bydd eich cynghorydd stopio smygu’n rhoi cyngor a chymorth o ran:
- Manteision rhoi’r gorau iddi
- Symptomau rhoi’r gorau iddi
- Strategaethau ymdopi
- Sut i ddefnyddio therapi disodli nicotin
- Profion carbon monocsid
Gwasanaeth Cefnogi Ysbytai Di Fwg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- cymorth cyfeillgar rhad ac am ddim i staff, cleifion mewnol a chleifion allanol y Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae’r gwasanaeth arbenigol hwn hefyd yn helpu cleifion â salwch cronig neu broblemau iechyd meddwl sydd am roi’r gorau i ysmygu ac y byddai’n elwa ar gymorth un-i-un. Gellir trefnu apwyntiadau gydag ymarferwyr Rhoi’r Gorau i Smygu yn ysbytai Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg, Bronglais a Dyffryn Aman trwy e-bostio Smokers.clinic@wales.nhs.uk
Dim Smygu Cymru
- i wneud apwyntiad yn eich ardal leol, ffoniwch y rhif ffôn am ddim ar 0800 085 2219 neu ewch i www.helpmequit.wales/
Galw Iechyd Cymru
Gwasanaeth stopio smygu MIND
- gwasanaeth stopio smygu arbenigol i bobl â salwch meddwl, gan gynnwys straen, pryder ac iselder.
Ar gael mewn lleoliadau amrywiol ar draws Hywel Dda:
- MIND Sir Benfro: 01437 769982
MIND Aberystwyth: 01970 626225 neu 07964 999411
MIND Sir Gaerfyrddin: 01554 752751 neu 01267 222990
Iechyd Da
- Tîm Iechyd Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin. Gwasanaeth stopio smygu i bobl ifanc dan 25 oed ac nad ydynt yn rhan o addysg prif-ffrwd, ffoniwch 01554 748085