Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallaf gefnogi'r gronfa dymuniadau?

Gall eich cefnogaeth i’r gronfa dymuniadau, ni waeth pa mor fawr neu fach, helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn bygwth bywyd, a’u teuluoedd.

Gallwch gefnogi’r gronfa dymuniadau trwy wneud y canlynol:

Rhoi cyfraniad

I roi cyfraniad ar-lein, cliciwch ar y botwm isod.

Gallwch hefyd gyfrannu trwy'r post: gwnewch bob siec yn daladwy i ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ (ysgrifennwch ‘Y Gronfa Dymuniadau’ ar gefn eich siec) a’i hanfon i Elusennau Iechyd Hywel Dda, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB.

Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt, a pheidiwch ag anfon arian parod yn y post.

Gellir darparu manylion banc ar gyfer BACS/trosglwyddiadau banc ar-lein ar gais. Ffoniwch ni ar 01267 239815 neu anfonwch neges e-bost i Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.

Dod yn godwr arian

Gallwch hefyd gefnogi'r ymgyrch trwy godi arian.

Efallai y byddwch am godi arian trwy greu eich atgofion hudolus eich hun: gall hyn fod trwy ddringo mynydd, rhedeg marathon, cynnal te parti, neu gyflawni nod sydd wedi bod gennych mewn golwg ers tro. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Trwy ddefnyddio’r ddolen isod a chlicio ar y botwm ‘Codi Arian i ni', drwy glicio yma a defnyddio'r botwm 'codi arian i ni' (agor mewn dolen newydd)

I drafod unrhyw syniadau sydd gennych, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.

Pa wahaniaeth y bydd fy rhodd yn ei wneud?

Pa swm bynnag y byddwch yn ei godi neu'n ei roi, bydd eich arian yn cael effaith.

Er enghraifft:

  • Mae £5 yn talu am sticeri 3D i blant i fywiogi eu diwrnod yn ystod triniaeth yn yr ysbyty
  • Mae £15 yn talu am fidgets a poppets – teganau synhwyraidd sy’n adnodd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • Mae £25 yn talu am fynediad i leoliad llawn hwyl ar wibdaith, megis Folly Farm
  • Mae £50 yn talu am Dedi Bêrs Bydd yn Ddewr i frodyr a chwiorydd, sy'n cynnig cysur a chymorth ar adegau anodd ac mewn profedigaeth
  • Mae £75 yn talu am declyn tynnu sylw Buzzy Bee ar gyfer plant a phobl ifanc a dderbynnir i gael profion gwaed a phrosesau pibellu. Mae hwn yn atal poen trwy'r defnydd o dymheredd a symudiad
  • Mae £150 yn talu am drip undydd bendigedig i grŵp bach
  • Mae £200 yn talu am flychau synhwyraidd sy'n cynnwys casgliad o deganau a deunyddiau sy'n darparu ysgogiadau penodol i blant a phobl ifanc.

Diolch i chi am roi atgofion i deuluoedd sy'n para am oes!

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: