Neidio i'r prif gynnwy

Ein Addunedau Celfyddydau ac lechyd

  • Canolbwyntio ar yr unigolyn - Darparu dewis o gyfleoedd creadigol sy'n parchu anghenion a hoffterau pob person, gan drin pawb â charedigrwydd a thosturi;
  • Cydweithredol - Gweithio gyda'n gilydd i gysylltu pobl â'r celfyddydau cymunedol i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant;
  • Creadigol - Manteisio ar bob ffurf ar gelfyddyd i drawsnewid amgylcheddau gofal iechyd i gynorthwyo iachâd ac adferiad ac i gefnogi pobl i fyw bywydau iachach, hapusach, mwy llawen;
  • Arloesol - Defnyddio creadigrwydd i ysgogi arloesedd a thrawsnewid ein meddwl am iechyd;
  • Cynhwysol - Datblygu cyfleoedd creadigol sy'n blaenoriaethu'r bobl fwyaf agored i niwed ac ar y cyrion yn ein cymdeithas, gan ddiwallu anghenion poblogaeth amrywiol ar bob cam o fywyd;
  • Diogel - Sicrhau bod yr holl weithgareddau creadigol yn ddiogel, yn briodol, ac yn sensitif i anghenion pobl, yn seiliedig ar dystiolaeth ac arfer gorau;
  • Cynaliadwy - Tyfu gwasanaeth celfyddydau ac iechyd cynaliadwy sy'n cysylltu pobl, celf, natur ac iechyd;
  • Lleol - Datblygu prosiectau creadigol sy'n gwerthfawrogi, anrhydeddu a dathlu ein treftadaeth, diwylliant a iaith Gymraeg.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: