Cymorth clyw ffit agored
Sychwch y gromen clust yn lân â chlwtyn llaith neu gadach gwlyb.
I lanhau'r tiwb tenau, dilynwch y camau isod:
- Ewch ati i ddadsgriwio'r tiwb tenau o'r cymorth clyw, gan sicrhau bod yr atodyn penelin yn aros ar y cymorth clyw.
- Bwydwch y wifren lanhau trwy'r tiwb tenau, o ben yr atodyn i'r gromen clust, a'i thynnu'n dyner trwy'r giard cwyr ar y pen – efallai y bydd yn ofynnol i chi wiglo'r wifren i'w chael trwy'r giard cwyr.
- Ailgysylltwch y tiwb tenau â'r cymorth clyw trwy ei sgriwio'n ôl i'w le.
Cymorth clyw mowld clust
Sychwch y mowld clust yn lân â chlwtyn llaith neu gadach gwlyb.
I'w lanhau'n drylwyr, dilynwch y camau isod:
- Tynnwch y mowld clust o'r cymorth clyw.
- Rhowch y mowld clust mewn powlen o ddŵr sebonllyd cynnes. Gadewch i'r mowld socian yn y dŵr am ychydig funudau.
- Ar ôl iddo socian, rinsiwch y mowld clust yn drylwyr o dan ddŵr rhedegog.
- Sychwch y mowld clust a'r tiwb; efallai y bydd yn ofynnol ysgwyd peth dŵr o'r tiwb neu gallwch ei adael i sychu dros nos.
- Ar ôl iddo sychu, ailgysylltwch y mowld clust â'r cymorth clyw.