Neidio i'r prif gynnwy

Post Hywel Dda

Hyb cleifion i reoli eich apwyntiadau gofal iechyd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd i'ch helpu i reoli eich apwyntiadau ar-lein. Mae “Post Hywel Dda” yn ffordd newydd i ni roi gwybod i chi pan fydd gennych apwyntiad claf allanol gyda ni.

Beth yw Post Hywel Dda?

Mae Post Hywel Dda yn wefan ddiogel ar-lein i gael mynediad at wybodaeth eich apwyntiad trwy ddefnyddio eich ffôn clyfar, llechen, neu gyfrifiadur. Byddwch yn gallu mewngofnodi a gweld manylion eich apwyntiad claf allanol a lawrlwytho'ch llythyr. Gallwch hefyd ofyn am alwad yn ôl i aildrefnu eich apwyntiad os nad yw'r dyddiad a'r amser yn gyfleus i chi.

Os bydd apwyntiad claf allanol i fod i chi, byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost gyda dolen ddiogel lle gallwch gael mynediad i'ch apwyntiad a'i weld. Nid oes angen cofrestru ar gyfer cyfrif gan fod y cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer gennym ni. Gallwch ddewis optio allan o hyn unrhyw bryd. Gweler ein cwestiynau cyffredin am sut i wneud hyn.

Manteision defnyddio ein dull newydd:

  • Bydd Post Hywel Dda yn caniatáu ichi dderbyn manylion eich apwyntiad claf allanol o fewn 24 awr.
  • Os byddwch yn dewis peidio ag ymgysylltu â'r hyb bydd llythyr yn cael ei bostio'n awtomatig ar ôl 72 awr ar ôl i'r hysbysiad cyntaf gael ei anfon atoch.
  • Gallwch barhau i weld manylion eich apwyntiad ar-lein a gallwch lawrlwytho copi o'ch llythyr i'ch dyfais eich hun.
  • Os nad yw'r apwyntiad yn gyfleus i chi, gallwch glicio ar yr opsiwn ail-archebu i ofyn am alwad yn ôl gan ein tîm Canolfan Gyswllt. Bydd y tîm yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn o fewn 48 awr i drefnu dyddiad ac amser newydd ar gyfer eich apwyntiad.
  • Bydd pob gwasanaeth yn nodi beth sydd angen i chi ddod ag ef i'ch apwyntiad, megis rhestr o'ch meddyginiaeth(au).
  • Gall pob apwyntiad ddarparu gwybodaeth i'ch helpu i gynllunio'ch taith. Gallai hyn fod yn wybodaeth deithio, manylion parcio a llywio Google Map i leoliad eich apwyntiad.
  • Gallwch arbed eich apwyntiadau ar galendr eich dyfais a gosod nodiadau atgoffa apwyntiad - gall cael nodyn atgoffa helpu i osgoi colli eich apwyntiad.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

Rydym yn cynnig mwy o ddulliau cyfathrebu i'n cleifion i ddarparu apwyntiadau cyflymach, hyblyg a chyfleus. Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar wella amseroedd rhestrau aros a lleihau nifer yr apwyntiadau clinigol a gollwyd.

Trwy gynnig y gwasanaeth hwn i chi trwy wefan hawdd ei defnyddio, byddwch yn derbyn manylion eich apwyntiad yn gynharach nag y byddech yn ei dderbyn yn y post.

Drwy leihau ein hcostau argraffu a postio, rydym yn arbed amser staff gweinyddol ac yn lleihau ein hôl troed carbon.


 
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: