Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gwasanaethau clinigol

Mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach a llawen.

Oherwydd natur y gwasanaethau a ddarperir ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, cydnabyddir bod gan ystod eang o wasanaethau rai gwendidau. Roedd hyn yn sbardun allweddol i ddatblygiad strategaeth y Bwrdd Iechyd sy’n ceisio lleihau, os nad dileu, y risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy.  

Mae gan ein strategaeth o’r enw ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach (agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig)’ , yr uchelgais i symud o wasanaeth sydd ond yn trin salwch i un sy’n cadw pobl yn iach, yn atal afiechyd neu waethygiad afiechyd, ac yn darparu unrhyw help sydd ei angen arnoch yn gynnar. Hyd nes y bydd y strategaeth wedi'i gweithredu'n llawn, yn enwedig sefydlu'r rhwydwaith ysbytai newydd arfaethedig, mae'n rhaid i wasanaethau reoli'r gwendidau hyn yn ddyddiol.  

Mae'r pandemig wedi datgelu'r diffygion hyn ymhellach, gyda llawer o wasanaethau'n methu ag adfer lefelau gweithgaredd neu fodelau gwasanaeth cyn-COVID. I ymateb i hyn, fe wnaethon ni adolygu gwasanaethau sydd angen sylw ar frys fel y gallwn ddatblygu set o gynlluniau i gefnogi gwasanaethau allweddol yn y tymor canolig.  

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos rhwng dydd Llun 2 Mehefin 2025 a dydd Sul 31 Awst 2025. Yn ystod yr ymgynghoriad roeddem yn ceisio barn ein cymunedau ar yr opsiynau newid arfaethedig ar draws naw gwasanaeth clinigol. Mae gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys dogfennau ymgynghori mewn fformatau hygyrch, ar gael ar ein tudalennau gwe ymgynghori pwrpasol (yn agor mewn dolen newydd)

 Casglodd cwmni annibynnol, Opinion Research Services (ORS), yr holl farn a glywsom gan bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ynghyd a chreu adroddiad. Bydd yr adroddiad hwn, ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth arall, yn helpu'r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau am ddyfodol y gwasanaethau hyn. 

Isod gallwch ddarllen crynodeb gweithredol yr adroddiad. Rydym wedi rhannu hyn mewn fformat hygyrch, gan ddefnyddio cynnwys yr adroddiad, yn union fel y cafodd ei ysgrifennu gan ORS. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ym mhapurau cyfarfod y Bwrdd ym mis Ionawr yma (yn agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig)..  Rydym yn ymwybodol nad yw'r adroddiad yn bodloni safonau hygyrchedd digidol.
 

 

 

Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth gefndir am y gwaith hwn ar ein tudalen we bwrpasol, yma. (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: