Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen brechu rhag COVID-19

Mae brechiad COVID-19 yn rhan bwysig o amddiffyn eich hun os ydych mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19.

Mae'r brechlynnau COVID-19 yn cael eu cynnig oherwydd bod firysau'n newid a diogelwch yn pylu dros amser. Mae'n bwysig ychwanegu at eich diogelwch os ydych yn gymwys.

Gall cael y brechlyn COVID-19:

  • helpu i leihau eich risg o gael symptomau difrifol
  • eich helpu i wella’n gyflymach os byddwch yn dal COVID-19
  • helpu i leihau eich risg o orfod mynd i’r ysbyty neu farw o COVID-19
  • amddiffyn rhag gwahanol fathau o firws COVID-19

Mae’r bobl sy’n gymwys ar gyfer brechlyn y gwanwyn COVID-19 yng Nghymru yn cynnwys:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 6 mis oed a throsodd sydd ag imiwnedd gwan

Os ydych yn gymwys byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad brechu naill ai gennym ni neu gan eich meddyg teulu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw frechlynnau neu os hoffech drefnu apwyntiad, mae croeso i chi gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu drwy e-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk a byddwn yn hapus i helpu.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: