Pwrpas y Pwyllgor Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant yw rhoi cyngor a sicrwydd i'r Bwrdd ar y canlynol:
- Cydymffurfio â deddfwriaeth, canllawiau ac arfer gorau o amgylch yr agenda gweithlu a Datblygu Sefydliadol, dysgu o waith a wneir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cael ei gydnabod fel arweinydd yn y maes hwn.
- Gweithredu Strategaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol y Bwrdd Iechyd, a Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gyfan, gan sicrhau bod y rhain yn gyson â chyfeiriad strategol cyffredinol y Bwrdd Iechyd a gyda unrhyw ofynion a safonau a osodir ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru.
- Gallu'r sefydliad i greu a rheoli trefniadau diwylliant sefydliadol cryf, perfformiad uchel.
- Bod trefniadau priodol i sicrhau bod addysg a chomisiynu yn diwallu anghenion y gweithlu yn y dyfodol.
Mae manylion swyddogaeth lawn y Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant (PDF, 893KB, agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pobl, Datblygu Sefydliadol a Diwylliant. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2026
2025
2024
2023
2022
2021