Mae Gwarcheidwad Caldicott yn uwch berson sy'n gyfrifol am ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth cleifion a defnyddwyr gwasanaeth a galluogi rhannu gwybodaeth briodol.
Mr Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yw Gwarcheidwad Caldicott Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae’n gweithredu fel ‘cydwybod’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy gefnogi gwaith i alluogi rhannu gwybodaeth a chynghori ar opsiynau ar gyfer prosesu gwybodaeth yn gyfreithlon ac yn foesegol.
Gwarcheidwad Caldicott
Mr Mark Henwood - Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Dirprwy Warcheidwad Caldicott
Dr June Picton - Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (Safonau Proffesiynol)
E-bost: CaldicottGuardian.HDD@wales.nhs.uk
Mae gan bob sefydliad GIG fandad i gael Gwarcheidwad Caldicott, yn ogystal â Chynghorau â chyfrifoldebau Gwasanaethau Cymdeithasol, a sefydliadau partner. Mae’r Gwarcheidwad yn chwarae rhan allweddol wrth fodloni’r safonau ymarferol uchaf ar gyfer trin gwybodaeth adnabyddadwy cleifion.
Mae Gwarcheidwad Caldicott yn rôl strategol, sy'n cynnwys cynrychioli a hyrwyddo gofynion a materion Llywodraethu Gwybodaeth ar lefel Bwrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Gyngor Caldicott (yn agor mewn dolen newydd).
Y term a ddefnyddir i ddisgrifio sut mae sefydliadau ac unigolion yn rheoli’r ffordd yr ymdrinnir â gwybodaeth o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol yw ‘llywodraethu gwybodaeth’. Ym 1997, cynhaliwyd Adolygiad o'r Defnydd o Wybodaeth Adnabyddadwy Cleifion, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Fiona Caldicott. Dyfeisiodd yr adolygiad hwn chwe egwyddor gyffredinol ar gyfer llywodraethu gwybodaeth y gellid eu defnyddio gan bob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sydd â mynediad at wybodaeth cleifion. Gelwir y rhain yn ‘Egwyddorion Caldicott’.
Ym mis Ionawr 2012, argymhellodd ffrwd waith Fforwm Dyfodol adolygiad. Roedd hyn er mwyn “sicrhau cydbwysedd priodol rhwng diogelu gwybodaeth cleifion, a defnyddio a rhannu gwybodaeth i wella gofal cleifion”.
Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn a gofynnodd i’r Fonesig Fiona arwain y gwaith, a ddaeth i gael ei adnabod fel adolygiad Caldicott 2. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, ychwanegwyd seithfed egwyddor at yr egwyddorion gwreiddiol.
Ym mis Rhagfyr 2020 ychwanegwyd 8fed egwyddor. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen bwrpasol ar gyfer Egwyddorion Caldicott (agor mewn dolen newydd).
Mae rhannu gwybodaeth yn dda yn hanfodol ar gyfer darparu gofal diogel ac effeithiol o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae yna hefyd ddefnyddiau pwysig o wybodaeth at ddibenion heblaw Gofal unigol a Gofal eilaidd. Mae'r rhain yn cyfrannu at ddarpariaeth gyffredinol iechyd, gofal cymdeithasol neu i wasanaethu buddiannau cyhoeddus ehangach.
Mae’r egwyddorion isod yn berthnasol i’r defnydd o wybodaeth bersonol a chyfrinachol o fewn y Bwrdd Iechyd. Cymhwysir y rhain hefyd pan rennir gwybodaeth o'r fath â sefydliadau eraill a rhwng unigolion, ar gyfer gofal unigol ac at ddibenion eraill.
Rhaid cadw gwybodaeth bersonol a chyfrinachol o fewn y Bwrdd Iechyd, a gesglir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn breifat. Dylid cymhwyso'r egwyddorion i'r holl ddata lle gellir adnabod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, manylion am symptomau, diagnosis, triniaeth, enwau a chyfeiriadau. Mewn rhai achosion, dylid cymhwyso'r egwyddorion hefyd wrth brosesu gwybodaeth staff.
Bwriad yr egwyddorion yn bennaf yw arwain sefydliadau a'u gweithwyr. Fodd bynnag, dylid cofio y dylid cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a/neu eu cynrychiolwyr fel partneriaid gweithredol wrth ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol.
Rhaid ceisio cymeradwyaeth Gwarcheidwad Caldicott bob amser ar gyfer prosesu eilaidd gwybodaeth bersonol a chyfrinachol claf. Mae hyn yn golygu lle bwriedir ei ddefnyddio at ddiben heblaw darparu gofal uniongyrchol.
Enghreifftiau o hyn yw:
Lle mae angen dyfarniad neu benderfyniad newydd a/neu anodd, fe'ch cynghorir i gynnwys Gwarcheidwad Caldicott.