Mae priodas yn undeb rhwng dyn a dynes neu rhwng cwpl o'r un rhyw.
Gall perthnasoedd cyplau o'r un rhyw hefyd gael eu cydnabod yn gyfreithiol fel 'partneriaethau sifil'. Rhaid peidio â thrin partneriaid sifil yn llai ffafriol na chyplau priod (ac eithrio pan ganiateir hynny gan y Ddeddf Cydraddoldeb).
Gwahaniaethu ar gyfer priodas a phartneriaeth sifil yw pan gewch eich trin yn wahanol yn y gwaith oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.