Ar 1 Ebrill 2024, sefydlwyd Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC). Disodlodd yr NWJCC y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a’r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol (NCCU).
Mae'r NWJCC bellach wedi cymryd cyfrifoldeb am y gwasanaethau a reolwyd yn flaenorol gan y pwyllgorau hyn. Bydd y NWJCC hefyd yn cynnal y gwaith o gomisiynu gwasanaethau GIG 111 Cymru a’r Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (NWJCC) yma Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru Gwybodaeth a phapurau (yn agor mewn dolen newydd)