Cyhoeddir ein rheolau sefydlog enghreifftiol gan Weinidogion Cymru i Fyrddau Iechyd Lleol. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru gytuno ar reolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio eu trafodion a'u busnes.
Mae'r dogfennau hyn yn sail ar gyfer datblygu ein fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd ac, ynghyd â mabwysiadu ein fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad, fe'u cynlluniwyd i sicrhau bod y safonau llywodraethu da a osodir ar gyfer y GIG yng Nghymru yn cael eu cyflawni.
Cynllun Dirprwyo Ariannol (PDF, 478KB, diweddarwyd Tachwedd 2023)
Cynllun Dirprwyo - Rhestru Cynlluniau BIPHDd (PDF, 648KB, 7 Tachwedd 2023, agor mewn dolen newydd)
Cylch Gorchwyl ar gyfer ein pwyllgorau statudol ac ymgynghorol
Cliciwch yma i weld Pwyllgorau statudol ac ymgynghorol y Bwrdd
Cyd-bwyllgorau - gallwch weld ein cyd-bwyllgorau yma
Isod fe welwch ein cyfarwyddiadau ariannol sefydlog (SFIs). Mae'r SFIs hyn yn manylu ar y cyfrifoldebau, polisïau a gweithdrefnau ariannol a fabwysiadwyd gan ein Bwrdd. Fe'u dyluniwyd i sicrhau bod ein trafodion ariannol yn cael eu cyflawni yn unol â'r gyfraith a pholisi Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cywirdeb, economi, effeithlonrwydd, a chynaliadwyedd.
Cliciwch yma i weld ein cyfarwyddiadu ariannol sefydlog (PDF, 1.4MB, diweddarwyd Tachwedd 2023)