Rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sicrhau bod y gofal a roddir i gleifion sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ddiogel. Mae hyn yn brif flaenoriaeth i'r Bwrdd ac rydym hefyd am fod mor dryloyw â phosibl drwy rannu â'r holl staff a'r cyhoedd y prif faterion sydd angen eu gwella, enghreifftiau o wasanaethau ansawdd uchel a’r wybodaeth a ddefnyddiwn i fonitro gwasanaethau.
Bob blwyddyn mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd Blynyddol sy’n disgrifio beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn flaenorol a beth sydd angen ei wella yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae Datganiad Ansawdd Blynyddol y llynedd ar gael ar lein isod.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi monitro mesurau amrywiol yn rheolaidd, a chaiff y rhain eu diweddaru a’u hadolygu drwy ein Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch er mwyn darparu sicrwydd i’n Bwrdd o ddiogelwch cleifion. Caiff y mesurau hyn eu hadolygu a’u diweddau’n barhaus, a’u cymharu â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru.
Mae’r mesurau, sydd newydd eu cyhoeddi, ar gael yma.
Gan gynnwys dogfennaeth bellach: SBAR Tachwedd 2015 - Marwolaethau a Niwed - Defnyddio Data ar gyfer Gwella Ansawdd (PDF, 204KB, agor mewn dolen newydd)