Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Neil Wooding

Cadeirydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB

01267 235151

Neil.Wooding@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cadeirydd

Braint o’r mwyaf oedd ymuno â Hywel Dda fel Cadeirydd y Bwrdd ym mis Mehefin 2024.

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd gwaith fel gwas cyhoeddus, rwy’n angerddol ynghylch sut rydym yn gofalu amdanom ein hunain ac eraill. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi cael y pleser o ddal uwch rolau mewn llywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r trydydd sector. Fy rôl ddiweddaraf oedd Cyfarwyddwr Gweithredol yn Swyddfa’r Cabinet a Phrif Swyddog Pobl yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2018-2021). Yn ogystal â’m rolau Gweithredol, bûm hefyd yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Llywodraeth yr Alban.

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd y Bwrdd Iechyd rwyf hefyd yn Gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ôl treulio llawer o’m hamser sbâr yn gwirfoddoli ers fy arddegau. Rwy’n Gydymaith y Sefydliad Siartredig Rheoli Pobl ac roeddwn yn ffodus i gael CBE yn 2022 am wasanaethau i Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Yn ogystal â’m profiad proffesiynol o’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus, rwyf hefyd yn aelod o’n cymuned leol ac mae gennyf brofiad uniongyrchol o’n gwasanaethau.

Rwy’n eiriolwr angerddol dros iechyd a llesiant, ac yn gwerthfawrogi’n arbennig sut y gallwn ni i gyd, fel unigolion a chymunedau, chwarae rhan i sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau. Gan fy mod yn byw yng Ngheredigion, mae gennyf ddiddordeb personol mewn gweld ein bwrdd iechyd yn llwyddo – er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fel ei gilydd.

Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau manteisio ar bopeth sydd gan ein hardal leol i’w gynnig. Rwy'n byw ar fferm fechan yn edrych dros Fae Ceredigion ac yn arbennig o hoff o gerdded llwybr yr arfordir a mwynhau amrywiaeth ein hamgylchedd naturiol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: