Neidio i'r prif gynnwy

Document reading

02/06/26
001 Tudalen deitl

Cynllun Gwasanaethau Clinigol Gwasanaethau Strôc Dogfen Ymgynghori Ymgynghoriad Cam 2

02/06/26
002 Cynnwys

Cysylltu â ni 3 Geirfa 4 Croeso 6 Amdanom ni 8 Beth yw’r ail gam hwn o’r ymgynghoriad? 9 Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn 10 Strôc 12 Yr opsiwn a ffefrir 21 Sut beth fyddai gofal strôc i gleifion o dan yr opsiwn a ffefrir 25 Sut wnaethom asesu’r opsiwn a ffefrir – meini prawf rhwystr 33 Cymryd rhan 37 Datganiad preifatrwydd – beth sy’n digwydd gyda’ch adborth 38 Rydyn ni’n gwrando 39 Sut y byddwn yn bwydo’n ôl i chi 39

02/06/26
003 Geirfa

24/7 – 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Gofal acíwt – Gofal ysbyty ar gyfer oriau/dyddiau cyntaf salwch i bobl sy’n ddifrifol wael. Yn canolbwyntio ar brofion, triniaeth a sefydlogi brys.
Uned Strôc Acíwt – Lle mewn ysbyty lle darperir gofal acíwt gan dîm arbenigol strôc.
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd – yn gweithio mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys ysbytai, clinigau cymunedol, meddygfeydd, cartrefi pobl, a mentrau preifat. Maent yn darparu canlyniadau cryf ac ymarferol, sy’n canolbwyntio ar atebion ac sy’n cadarnhau bywyd, a hynny drwy ystod unigryw o ymyriadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol. Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn derbyn gofal cynhwysfawr ac effeithiol sydd wedi’i bersonoli. Yng Nghymru mae 13 o broffesiynau wedi’u cynnwys o dan y term ‘Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd’. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd a dietegwyr.
Canolfan Strôc Ranbarthol Gynhwysfawr – Uned strôc acíwt sy’n gallu darparu triniaethau thrombectomi. Maen nhw’n darparu gofal i gleifion dros ranbarth daearyddol ehangach a cheir disgrifiad yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc.
Sgan CT – Mae sgan CT (topograffeg gyfrifiadurol) yn defnyddio pelydrau-x a chyfrifiadur i greu delweddau manwl o’r tu mewn i’r corff. Mae CT angiogram (CTA) yn sgan CT sy’n edrych ar bibellau gwaed yn yr ymennydd.
Diagnosteg – Profion neu weithdrefnau a ddefnyddir i adnabod clefyd neu gyflwr.
Rhyddhau Cynnar â Chymorth – Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer rhai cleifion strôc, fel arfer i bobl sydd ag anabledd ysgafn i gymedrol. Mae’n galluogi adsefydlu gartref yn dilyn strôc trwy dîm amlddisgyblaethol arbenigol. Mae’n darparu adsefydlu strôc ymatebol (o fewn 24 awr) a dwys ym man preswyl y claf dros gyfnod penodol o amser (e.e. chwe wythnos).
Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig – Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu adsefydlu cymunedol effeithiol cynnar i bob claf strôc sy’n gadael ysbyty. Mae’r tîm yn gweithio gyda’r claf a’i deulu, staff yr uned strôc acíwt a gwasanaethau cymorth eraill gan gynnwys y sector gwirfoddol i sicrhau rhyddhau’r claf cyn gynted â phosib.
Canlyniadau cleifion – Canlyniadau gofal a thriniaeth claf. Gall canlyniadau cleifion gynnwys pethau fel a yw rhywun yn goroesi, pa mor gyflym y maent yn gwella yn feddyliol a chorfforol, pa mor annibynnol ydynt wedyn, ac ansawdd eu bywyd.
Brysbennu fideo cyn ysbyty – Asesiad a wnaed gan dîm ambiwlans, gyda chymorth galwad fideo gyda’r tîm strôc arbenigol, i helpu i fynd â chlaf i’r amgylchedd gofal cywir, cyn gynted â phosib.
Datganiad ansawdd ar gyfer strôc – Dogfen Llywodraeth Cymru sy’n disgrifio sut beth ddylai gwasanaethau strôc fod a beth ddylent wneud. Cafodd ei ddiwygio ym mis Chwefror 2026.

Adsefydlu – Darparu therapi a chefnogaeth barhaus yn ystod ac ar ôl cyfnod acíwt strôc i helpu cleifion i wella ac adennill annibyniaeth. Mae hyn fel arfer mewn uned adsefydlu strôc bwrpasol neu fel rhan o Wasanaethau Strôc Cymunedol Integredig yn y gymuned.
Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel – Archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal strôc yn y DU. Mae’n casglu gwybodaeth fanwl am y gofal y mae pobl yn ei gael yn dilyn strôc, o dderbyn i ysbyty, i adsefydlu a rhyddhau.
Strôc – Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy’n peryglu bywyd sy’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Mae hyn yn achosi i rannau o’r ymennydd gael eu difrodi neu farw oherwydd diffyg ocsigen.
Tîm neu wasanaeth arbenigol strôc – Mae tîm neu wasanaeth arbenigol strôc yn grwp o arbenigwyr sy’n cydweithio’n rheolaidd i reoli cleifion sydd wedi cael strôc. Rhyngddynt, mae ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau penodol i asesu a rheoli problemau sy’n gysylltiedig â strôc.
Uned Adsefydlu Strôc – Man mewn ysbyty lle darperir gofal adsefydlu gan dîm adsefydlu strôc amlddisgyblaethol.
Thrombectomi – Mae thrombectomi yn weithdrefn feddygol sydd wedi’i chynllunio i dynnu thrombws (clot gwaed) o bibell waed, a all fod yn rhydweli neu’n wythïen. Dim ond rhai cleifion sy’n addas ar gyfer thrombectomi, mae hyn yn dibynnu ar y math o strôc a phryd y digwyddodd.
Thrombolysis – Gweithdrefn feddygol sy’n chwistrellu meddyginiaeth i’r corff a all chwalu clot mewn rhydweli neu wythïen ac adfer cyflenwad gwaed i’r ymennydd.
Pwl o Isgemia Dros Dro – Salwch sy’n gallu peri symptomau tebyg i strôc.
Trin a throsglwyddo – Mae cleifion yn derbyn eu hasesiad a’u triniaeth strôc cychwynnol yn yr ysbyty addas agosaf. Yna maen nhw’n cael eu trosglwyddo i uned strôc acíwt am ofal pellach, neu i Ganolfan Thrombectomi yng Nghaerdydd neu Fryste os mai dyma’r driniaeth fwyaf priodol.
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) – Y sefydliad sy’n gyfrifol am ymateb i argyfyngau yn y gymuned a dod â chleifion i’r ysbyty.

02/06/26
004 Cysylltu a ni

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg ac ar ein gwefan mewn fformatau amgen fel sain a Hawdd ei Ddeall.
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael mewn ieithoedd eraill gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, Pwyleg, Arabeg, Bengaleg, Cwrdeg Sorani.
Gallwch weld y dogfennau hyn yn: biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc neu drwy sganio’r cod QR.
I ofyn am fersiynau print (rydym yn cynnwys sawl dolen we i ddogfennau yn y cyhoeddiad hwn), neu os ydych angen fformat hygyrch arall, ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), pris galwad leol neu ebostiwch: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

Mae’r ail gam hwn o’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn ymwneud â gwasanaethau strôc ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Hywel Dda) a sut rydym yn darparu gofal iechyd sy’n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.
Mae’r ymgysylltu’n rhedeg tan ddydd Sul 26 Gorffennaf 2026, felly mae angen i ni glywed eich barn cyn hynny.
Trowch at ein tudalennau gwe neu ffoniwch ni i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi neu ddigwyddiad ar-lein. Os hoffai eich sefydliad neu grwp cymunedol wybod mwy am yr ymgynghoriad, cysylltwch â ni yn y ffyrdd sydd wedi eu nodi ar y dudalen hon.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dogfennau ategol manwl, ar gael ar ein gwefan yn: biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc

Gallwch rannu eich barn drwy: 

  • lenwi’r holiadur ar ein gwefan (gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost atom neu ein ffonio ar y rhif isod) 
  • ei bostio i: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD (nid oes angen stamp) 
  • e-bostio: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk 
  • siarad â ni yn un o’n digwyddiadau (ewch i’r wefan uchod i weld digwyddiad sy’n lleol i chi neu ar-lein), neu drwy ffonio 0300 303 8322 (opsiwn 5), pris galwad leol
02/06/26
005 Croeso

Diolch am eich diddordeb parhaus yn ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Mae’r ddogfen hon yn ymwneud ag ail gam yr ymgynghoriad, sy’n canolbwyntio ar sut y gellid darparu gwasanaethau strôc ar draws ein pedwar prif safle ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Hywel Dda).
Rydym nawr yn gofyn am eich barn ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer gwasanaethau strôc. Trafodwyd yr opsiwn hwn yn ein cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus ar 18 a 19 Chwefror 2026. Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd ein Bwrdd ar fodelau gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer wyth o’r naw gwasanaeth sydd wedi’u cynnwys yn ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar ein gwefan yn: biphdd.gig.cymru/ cynllun-gwasanaethau-clinigol
Ar gyfer strôc, gofynnodd y Bwrdd am waith pellach ac ymgysylltu ychwanegol gyda chymunedau ar opsiwn a ffefrir cyn y gellir gwneud penderfyniad terfynol.
Datblygwyd opsiwn newydd a ffefrir trwy ddwyn ynghyd elfennau o ddau syniad amgen a awgrymwyd yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad (Opsiwn 106 ac Opsiwn 210). Gyda’i gilydd, byddai’r rhain yn creu: 

  • uned strôc acíwt ac adsefydlu 24 awr yn Glangwili,
  • uned adsefydlu strôc yn Bronglais, a 
  • gwasanaeth trin a throsglwyddo ar gyfer strôc o ysbytai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg. Yn dilyn triniaeth gychwynnol, byddai cleifion yn cael eu trosglwyddo o fan hyn i Glangwili neu’n uniongyrchol i ganolfan thrombectomi (yng Nghaerdydd neu Fryste) os mai dyma’r driniaeth fwyaf priodol

Roedd y Bwrdd o’r farn y gallai uno’r ddau opsiwn amgen hyn fynd i afael gwell â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth a helpu i gryfhau darpariaeth gofal strôc o ansawdd uchel yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i ni weithio trwy’r manylion yn ofalus i ddeall beth allai hyn ei olygu i gleifion, gofalwyr, staff, sefydliadau partner a’n cymunedau ehangach.
Cytunodd y Bwrdd na ellid gwneud penderfyniad terfynol ar wasanaethau strôc nes: 

  • bod gwaith yn digwydd i ddatblygu ac asesu’r opsiwn newydd i’r un lefel o fanylder â’r opsiynau eraill a ystyriwyd yng nghyfarfod cyhoeddus y Bwrdd, a 
  • bod yr ail gam hwn o’r ymgynghoriad wedi digwydd, fel y gallwn ddeall y safbwyntiau ar yr opsiwn newydd hwn a ffefrir


Yn dilyn hyn, bydd ein Bwrdd yn ystyried yr holl dystiolaeth a phopeth y mae wedi’i glywed yn ystod dau gam yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Yna bydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar y model gwasanaeth ar gyfer strôc yn Hywel Dda i’r dyfodol.
Ar gyfer ein holl gymunedau, mae’n rhaid i ni wella’r safonau gofal a ddarparwn a’r canlyniadau y mae ein cleifion yn eu profi. Nid ydym yn credu bod y ffordd bresennol rydym yn darparu gofal strôc yn rhoi’r canlyniadau gorau i gleifion. Mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â heriau staffio parhaus sy’n ei gwneud hi’n anodd darparu’r gwasanaeth o ansawdd uchel y mae ein poblogaeth yn ei haeddu.
Diolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser a chyfrannu adborth i’n helpu i gyrraedd y man hwn. Nid oes unrhyw benderfyniadau ynglˆyn â’r model ar gyfer gwasanaethau strôc i’r dyfodol wedi’u gwneud eto. Rydym am glywed gennych chi - ein staff, cleifion, cymunedau ehangach, sefydliadau rydyn ni’n gweithio â nhw, a phobl sydd â diddordeb mewn iechyd a llesiant yn ein hardal. Rhannwch eich barn â ni ar yr opsiwn a ffefrir a sut y gallai effeithio arnoch chi, trwy lenwi ein holiadur erbyn 26 Gorffennaf 2026. Diolch yn fawr.

Dr Neil Wooding Cadeirydd

Yr Athro Philip Kloer Prif Weithredwr

Mr Mark Henwood Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol

02/06/26
006 Amdanom ni

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eich sefydliad GIG lleol. Rydym yn cynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau iechyd i bron i 400,000 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae rhai o’n gwasanaethau hefyd yn cael eu defnyddio gan gymunedau mewn ardaloedd ffiniol yn ne Gwynedd, a rhannau o Bowys ac Abertawe/Castell-nedd Port Talbot. Mae ein cymunedau yn eithaf gwasgaredig, yn aml yng nghefn gwlad. Rydym yn darparu gwasanaethau drwy:

  • pedwar prif ysbyty (Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd) 
  • pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion, Ysbyty Dinbych-y-pysgod ac Ysbyty De Sir Benfro yn Sir Benfro) 
  • dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, y ddwy yng Ngheredigion) 
  • cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys meddygfeydd, deintyddfeydd, fferyllfeydd cymunedol, practisau offthalmig (gofal llygaid) a safleoedd sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu 
  • gofal yn eich cartref eich hun

Mae gwasanaethau arbenigol iawn yn gallu cael eu darparu y tu allan i’n hardal, er enghraifft yn Abertawe, Caerdydd, neu hyd yn oed y tu allan i Gymru fel ym Mryste.

02/06/26
007 Beth yw'r ail gam hwn

Mae’r ail gam hwn o’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn ymwneud yn benodol â sut y gallem ddarparu gwasanaethau strôc i’r dyfodol. Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy’n peryglu bywyd sy’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Gyda phwy rydyn ni eisiau siarad Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod chi’n cymryd yr amser i rannu eich barn – diolch yn fawr i chi. Mae’r ail gam hwn o’r ymgynghoriad ar gyfer holl aelodau’r cyhoedd sy’n byw, yn gweithio neu sydd â diddordeb yn ein hardal. Rydym yn cydnabod bod gan bobl ddiddordebau a safbwyntiau gwahanol. Efallai eich bod yn defnyddio ein gwasanaethau, neu’n gofalu am rywun sy’n eu defnyddio. Efallai eich bod yn gweithio gyda ni fel staff, myfyrwyr neu wirfoddolwyr. Efallai eich bod yn cynrychioli sefydliad yr effeithir arno o bosib gan ein cynigion neu efallai bod gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant. Yn ogystal â siarad â phobl yn ein hardal, byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd mewn siroedd cyfagos ac yn annog trigolion neu sefydliadau yn yr ardaloedd hyn i rannu eu barn.
Rydyn ni am glywed 

  • a ydych chi’n cefnogi’r opsiwn a ffefrir a pham 
  • os nad ydych chi’n cefnogi’r opsiwn a ffefrir, a fyddai opsiwn a ystyriwyd yn flaenorol gan y Bwrdd yn gweithio’n well a pham 
  • unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl y mae angen i ni ei ystyried er mwyn i wasanaethau strôc weithio’n well yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gamau lliniaru neu welliannau, ac effeithiau posibl ar y Gymraeg, os yw’r gwasanaeth yn gweithredu’n wahanol yn y dyfodol.


Mae’r pwyntiau canlynol wedi’u penderfynu ac nid ydynt yn agored i ddylanwad yn yr ail gam hwn o’r ymgynghoriad: 

  • Rôl ein pedwar prif safle ysbyty yn y dyfodol a modelau gwasanaeth i’r dyfodol ar gyfer yr wyth gwasanaeth arall sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol: 
    • gofal critigol,
    • dermatoleg,
    • llawfeddygaeth gyffredinol frys,
    • endosgopi,
    • offthalmoleg,
    • orthopedeg,
    • radioleg ac
    • wroleg 
  • Nid ydym yn derbyn syniadau amgen newydd ar gyfer sut y gallai gwasanaethau strôc gael eu darparu yn Hywel Dda. Cafwyd y rhain yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad 
  • Cyfeiriad cyffredinol ein strategaeth ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach - Iechyd da, bywyd llawn’ 
    • symud tuag at wasanaeth llesol yn hytrach na gwasanaeth salwch 
    • datblygu model cymdeithasol ar gyfer iechyd 
    • cefnogi pobl, trwy dechnoleg a dulliau eraill, i gadw’n iach, yn annibynnol, ac yn eu cartrefi eu hunain 
    • buddsoddiad cyfalaf sylweddol i wella neu newid hen adeiladau 
    • dod â gwasanaethau ysbyty acíwt at ei gilydd i’w gwneud yn gryfach ac i wella safonau gofal
02/06/26
008 Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn

Ym mis Mawrth 2023, cymeradwyodd ein Bwrdd ddull rhaglen i ddatblygu cynllun gwasanaethau clinigol mewn ymateb i fregusrwydd gwasanaethau. Roedd yn seiliedig ar egwyddorion gofal sy’n ddiogel, cynaliadwy, hygyrch a charedig.
Datblygwyd cynllun gwasanaethau clinigol i ddarparu set o gynlluniau ar gyfer naw gwasanaeth clinigol a ystyriwyd fel y rhai mwyaf bregus. Dyma’r naw: gofal critigol, dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopedeg, radioleg ac wroleg
Roedd angen edrych ar newid yn y naw gwasanaeth hyn gan fod risgiau iddynt allu parhau i gynnig gwasanaethau diogel ac o safon neu ofal amserol.
Rydym wedi cydnabod ers sawl blwyddyn bod rhai o’n gwasanaethau ysbyty yn fregus. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod ein timau clinigol wedi’u gwasgaru ar draws sawl safle, gyda gor-ddibyniaeth ar nifer fach o aelodau staff.
Ar gyfer pob gwasanaeth, edrychwyd ar y ffactorau sy’n effeithio ar bob gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw newidiadau dros dro, canllawiau a pholisïau clinigol, materion staffio a heriau costau.
O ystyried yr heriau, fe wnaethom ddatblygu’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol gydag opsiynau i newid y naw gwasanaeth allweddol hyn. Roedd angen gallu cyflawni unrhyw opsiwn a ddatblygwyd o fewn pedair blynedd i unrhyw benderfyniad. Yn ogystal, ystyriodd ein Bwrdd pa newid pellach y gellid ei wneud mewn mwy na phedair blynedd.
Fe wnaethom gynnwys staff a’r cyhoedd, gan nodi pobl a sefydliadau (rhanddeiliaid) a ddylai fod yn rhan o’r sgwrs. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Ddogfen Ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, sydd ar gael ar ein gwefan: biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, paratowyd adroddiad annibynnol gan Opinion Research Services (ORS) sydd hefyd ar gael ar ein tudalennau gwe ar yr ymgynghoriad. Mae’r adroddiad yn crynhoi mwy na 4,000 o ymatebion holiadur, yn ogystal â’r adborth a rannwyd mewn digwyddiadau cyhoeddus, gyda staff a rhanddeiliaid, a fynychwyd gan dros 4,000 o bobl.
Yn ei gyfarfod eithriadol a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Chwefror 2026, ystyriodd ein Bwrdd yr adroddiad ymgynghori annibynnol yn ofalus ochr yn ochr ag ystod o wybodaeth arall. Roedd hyn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am wydnwch y gweithlu a’r gwasanaethau, cyflwr ystadau, pwysau gweithredol, gweithio rhanbarthol, safonau clinigol newydd a sut mae gwasanaethau yn cysylltu â’i gilydd.
Ystyriodd y Bwrdd hefyd y 22 opsiwn amgen a awgrymwyd ar gyfer y naw gwasanaeth fel rhan o’r broses ymgynghori ac a oedd yn bodloni meini prawf rhwystr.

Meini prawf rhwystr yw’r amodau hanfodol y mae angen i syniad amgen eu bodloni cyn iddo symud ymlaen i’w ystyried ymhellach fel opsiwn a gyflwynir i’r Bwrdd.

Dylai pob opsiwn drafft, ac unrhyw syniadau newydd a awgrymir yn yr ymgynghoriad hwn, fodloni'r meini prawf canlynol: 

•    Yn glinigol gynaliadwy – A yw'r opsiwn yn caniatáu cynnydd tuag at gyflawni safonau ansawdd? A yw'n ystyried unrhyw gyd-ddibyniaethau? A fydd y gweithlu yn gallu ei gyflawni? 
•    Yn gyflawnadwy – A yw'r opsiwn yn gyflawnadwy yn glinigol ac yn weithredol o fewn yr amserlen o 2 i 4 blynedd? A oes gofynion cyfalaf neu adeiladu y gellir eu sicrhau a'u cyflawni yn yr amserlen honno? 
•    Yn hygyrch – A yw'r opsiwn yn darparu mynediad i bobl o fewn amserlen briodol? A yw'r opsiwn yn cefnogi lleihau amseroedd aros i gleifion? A oes tegwch mewn mynediad? 
•    Yn alinio'n strategol – A yw'r opsiwn yn cefnogi'r cyfeiriad a nodir yn strategaeth 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Iechyd Da, Bywyd Llawn', neu o leiaf ddim yn ei wrth-ddweud? A yw'r opsiwn yn cefnogi gwaith ar y cyd ar atal er mwyn gwella iechyd y boblogaeth, neu o leiaf ddim yn ei wrth-ddweud?
•    Yn ariannol gynaliadwy – A yw'r opsiwn yn cefnogi defnydd effeithiol o'n cyllid?

Nododd y Bwrdd hefyd wasanaethau lle mae angen ymgysylltu pellach neu wybodaeth ychwanegol i ddeall effeithiau opsiynau cyn y gellir gwneud penderfyniadau terfynol. Ystyriwyd y camau ymarferol sydd angen eu cymryd ar gyfer gweithredu, gan gynnwys sut y byddai angen cyflwni’r newidiadau gam wrth gam, dros amser.
Ar gyfer y cam gweithredu, daethpwyd i benderfyniadau terfynol ar gyfer pob gwasanaeth ac eithrio strôc. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau a wnaed ar gyfer yr wyth gwasanaeth arall sydd wedi'u cynnwys yn ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar gael ar ein gwefan https://biphdd.gig.cymru/cynllun-gwasanaethau-clinigol/ 
Ar gyfer strôc, archwiliwyd syniad cyfunol Newydd. Mae’n cyfuno elfennau o ddau opsiwn amgen i symud ymlaen tuag at uned strôc acíwt 24 awr yn Glangwili ac uned adsefydlu strôc yn Bronglais. 
Oherwydd graddfa'r newid, nododd ein Bwrdd fod angen asesu ac ymgysylltu pellach â staff, cymunedau a rhanddeiliaid cyn y gellid gwneud unrhyw benderfyniadau ar gyfer y model ar gyfer gwasanaethau strôc i’r dyfodol ar draws Hywel Dda.
 

02/06/26
009 Stroc

Cyflwyniad 
Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n peryglu bywyd sy'n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd gan glot gwaed neu waedu o bibell waed. Mae strôc yn argyfwng meddygol ac mae triniaeth frys yn hanfodol. Po gynted ag y bydd person yn derbyn triniaeth ar gyfer strôc, y gorau yw ei siawns o wella. Mae strôc yn taro'n sydyn a gall arwain at ystod ysgubol o anableddau neu farwolaeth, gan gael effaith ddofn ar unigolion a'u teuluoedd. 
Gwasanaethau strôc cyfredol 
Unedau strôc yw lle dylech gael eich anfon o fewn pedair awr o gael eich derbyn i ysbyty ar gyfer eich gofal cychwynnol. 
Mae ein timau clinigol strôc wedi'u gwasgaru ar draws ein hunedau strôc yn ein pedwar prif ysbyty. Golyga hyn fod ein timau, sy'n fach, wedi'u gwasgaru dros ardal ddaearyddol eang.
Ar hyn o bryd maent yn cael eu darparu yn:  
•    Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais
•    Ward Gwenllian yn Ysbyty Glangwili
•    Ward 9 yn Ysbyty Tywysog Philip, a
•    Ward 11 yn Ysbyty Llwynhelyg. 

Yn 2023-2024 roedd 792 o dderbyniadau strôc ar draws ein holl ysbytai, mae hyn tua 16 yr wythnos. Cafodd tua 30% ohonynt eu trin yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg a chafodd tua 20% ohonynt eu trin yn ysbytai Bronglais a Tywysog Philip.
Mae achosion strôc mwy difrifol yn cael eu trosglwyddo i ganolfannau thrombectomi, fel yng Nghaerdydd neu Fryste. 
Mae cleifion lle’r amheuir strôc yn dod i'n gofal mewn sawl ffordd, gan gynnwys: 
•    ambiwlans yn dilyn galwad 999
•    cleifion yn cyrraedd yn uniongyrchol trwy wasanaethau cerdded-i-mewn
•    lle’r amheuir strôc ymhlith cleifion mewnol presennol, neu
•    lle’r amheuir strôc yn y gymuned gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol
 
Mewn rhai achosion, mae angen sgan CT (tomograffeg gyfrifiadurol) a/neu sgan CTA (angiograffeg tomograffeg gyfrifiadurol) ar gleifion. Mae hyn i nodi a oes gwaedu o amgylch yr ymennydd neu a oes pibell waed wedi blocio neu gau.
Mae'r asesiad cychwynnol o gleifion lle’r amheuir strôc yn cael ei gynnal gan staff meddygol hyfforddedig. Rhan bwysig o'r driniaeth gychwynnol ar gyfer cyfran o gleifion strôc yw thrombolysis. Mae hon yn driniaeth lle rhoddir cyffur i glaf i chwalu clotiau gwaed a cheisio ailsefydlu'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd. Mae'n bwysig rhoi'r driniaeth thrombolysis cyn gynted â phosib. Cyflawnir y canlyniadau gorau i'r cleifion hynny sy'n cael thrombolysis o fewn tair awr, er y gellir ei roi'n effeithiol ar ôl hyn hyd at bedair awr a hanner 
Ar ôl cael eu derbyn i uned strôc, mae cleifion yn cael eu hadolygu gan ymgynghorydd. Pan yn ddigon da, mae cleifion yn derbyn asesiadau amlddisgyblaethol, yn ogystal ag adsefydlu dwys, fel y bo'n briodol. Mae cleifion yn cael eu rhyddhau adref yn unol â difrifoldeb eu strôc. Gall Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig hefyd helpu cyflymder eu hadferiad. Mae Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig yn cael eu datblygu'n raddol yn Hywel Dda i gefnogi cleifion strôc yn y gymuned, gan ganiatáu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt.
A wyddoch chi? Mae Cymru'n dilyn arferion gorau cenedlaethol ar gyfer gofal strôc, wedi'u harwain gan Raglen Strôc Genedlaethol y DU i wella atal, triniaeth ac adferiad.
A wyddoch chi? Mae GIG Cymru wedi datblygu ei safonau ei hun ar gyfer gofal strôc, wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer anghenion pobl yng Nghymru. Mae'r safonau hyn wedi'u hadeiladu ar y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, gan sicrhau bod gofal yn gyson, o ansawdd uchel ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Fe'u hatgyfnerthir gan y Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc, sy'n nodi beth yw gofal strôc rhagorol sy'n canolbwyntio ar y claf. Gyda'i gilydd, mae'r safonau hyn yn cefnogi ymagwedd iechyd poblogaethau, gan helpu i wella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled y wlad.
A wyddoch chi? Disgwylir i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru fabwysiadu'r Datganiad Ansawdd ar gyfer strôc fel fframwaith ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau atal a gofal strôc gorau posib mewn cydweithrediad â'u partneriaid. Datblygwyd hyn gan Lywodraeth Cymru yn unol â'r ymrwymiadau a amlinellir yn 'Cymru Iachach'. 

Mae saith elfen allweddol i’r llwybr strôc, sef:
1.    Atal Strôc
2.    Pwl o Isgemia Dros Dro
3.    Gofal Strôc Cyn-ysbyty
4.    Y cyfnod acíwt 0-72 awr
5.    Adferiad ac Adsefydlu
6.    Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig
7.    Bywyd yn dilyn strôc
 

Pam mae angen newid
Ar hyn o bryd, nid yw ein gwasanaethau strôc yn bodloni safonau clinigol, ac nid oes gennym staffio arbenigol saith diwrnod. Gall hyn arwain at ganlyniadau cleifion nad ydynt cystal ag y gallent fod. Dyma pam mae angen i ni newid y ffordd y darperir gwasanaethau strôc fel eu bod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig i gleifion a staff.
Datganiad Ansawdd ar gyfer strôc
Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer strôc yn nodi beth yw gofal strôc rhagorol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws Cymru. Mae'n darparu fframwaith i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau strôc cyson, diogel a modern. 
Ar hyn o bryd, mae ein hadnoddau gwasanaeth strôc wedi'u gwasgaru'n denau ar draws sawl safle. 
Dyma beth mae hyn yn ei olygu:  
•    mae ein lefelau staffio nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac ymgynghorwyr strôc arbenigol yn annigonol 
•    rydym yn dibynnu ar ymgynghorwyr locwm unigol yn Bronglais a Glangwili sy'n gwneud ein gwasanaeth yn fregus
•    nid oes gennym staffio arbenigol saith diwrnod 
•    nid oes gan ein poblogaeth fynediad at Ganolfan Strôc Ranbarthol Gynhwysfawr arbenigol yn ein hardal
•    nid ydym wedi gallu bodloni'r safonau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a argymhellir gan Goleg Brenhinol y Meddygon ac a fesurwyd gan raglen y Sentinel Stroke National Audit Programme (SSNAP)
•    mae ein gor-ddibyniaeth ar unigolion a risg o chwalfa yn y gwasanaeth yn golyga diffyg gwytnwch
•    nid oes gennym wasanaeth adsefydlu cymunedol sy'n bodloni'r safonau strôc ar gyfer Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig
•    nid oes gennym wasanaeth 7 diwrnod (neu 5 diwrnod) ar gyfer Pwl o Isgemia Dros Dro fel yr argymhellir gan y safonau strôc
•    cyfranogiad anghyfartal mewn astudiaethau ymchwil oherwydd prinder staff

Awgryma hyn nad yw ein poblogaeth yn cael y canlyniadau gorau posib yn Dilyn strôc, sy'n golygu marwolaethau ac anableddau y gellir eu hosgoi. Mae hefyd yn dangos, er bod ein staff yn gweithio'n ddiwyd i ddarparu'r gofal gorau y gallant, efallai na fydd ysbyty agosaf cleifion yn gallu eu cefnogi trwy gydol eu gofal a'u triniaeth na chynnig y canlyniadau gorau.
Rydym yn cydnabod y gall arbenigedd gwasanaethau strôc a datblygu Canolfannau Strôc Rhanbarthol Cynhwysfawr arbenigol olygu bod rhai cleifion yn derbyn eu gofal parhaus mewn ysbyty gwahanol i'r un y maent yn gyfarwydd ag ef ar hyn o bryd. I deuluoedd a gofalwyr, gallai hyn olygu teithio ymhellach i ymweld ag anwyliaid sydd yn yr ysbyty. Deallwn yr effaith y gall hynny ei gael, ac mae'n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif fel rhan o'n penderfyniadau.

Yr opsiynau strôc y gwnaethom ymgynghori arnynt
Gwnaethom ymgynghori ar ddau opsiwn yn wreiddiol fel rhan o'n Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Y rhain oedd Opsiwn A ac Opsiwn B.
Y gwasanaeth strôc a ddarperir yn Hywel Dda ar hyn o bryd yw unedau strôc yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Cipolwg 
Roedd Opsiwn A yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn Bronglais a Glangwili, ac unedau strôc (staffio arbenigol 12 awr y dydd) yn Tywysog Philip a Llwynhelyg.
Roedd Opsiwn B yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn Bronglais a Glangwili, uned strôc (staffio arbenigol 24 awr y dydd) yn Tywysog Philip a trin a throsglwyddo ac uned strôc (staffio arbenigol 12 awr y dydd) yn Llwynhelyg. Yn yr opsiwn hwn, byddai cleifion yn Llwynhelyg yn cael eu trosglwyddo i Tywysog Philip am eu gofal cychwynnol cyn dychwelyd i Llwynhelyg ar gyfer gofal pellach ac adsefydlu strôc. 
Yn y ddau opsiwn, byddai Bronglais a Glangwili yn dod yn ysbytai 'trin a throsglwyddo' ar gyfer strôc. 
Yn Opsiwn B byddai Llwynhelyg hefyd yn dod yn ysbyty 'trin a throsglwyddo' ar gyfer strôc. Byddai hyn yn golygu, yn dilyn asesiad cychwynnol, byddai cleifion strôc sydd angen gofal acíwt yn cael eu trosglwyddo i rywle arall o fewn Hywel Dda (sy’n wahanol yn y ddau opsiwn, fel yr amlinellir uchod) neu i ganolfan thrombectomi, fel Caerdydd neu Fryste, yn ôl eu hanghenion. Byddai gofal ar gyfer Pwl o Isgemia Dros Dro (strôc fach) yn parhau yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg, ond nid yn Glangwili. 
A wyddoch chi? Mae canllawiau clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc wedi newid gyda ffenestr o bedair awr a hanner ar gyfer thrombolysis o ddechrau'r strôc lle bo'n addas.
A wyddoch chi? Lle bo hynny'n briodol, dylid rhoi cyffuriau thrombolysis o fewn 45 munud o gyrraedd yr ysbyty, er eu bod wedi'u trwyddedu i'w defnyddio o fewn pedair awr a hanner i ddechrau'r strôc.
Y themâu allweddol a rannwyd gyda ni yn ystod yr ymgynghoriad
Yn ystod yr ymgynghoriad 13 wythnos a hanner o hyd ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol a gynhaliwyd rhwng Mai ac Awst 2025, rhannodd ein cymunedau y safbwyntiau canlynol gyda ni:
•    clywsom fod teithio, trafnidiaeth a daearyddiaeth wledig yn bryderon mawr o ran diogelwch a thegwch. Mae’r teithiau yn rai hir a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig. Mae’r pwysau ar drosglwyddo cleifion yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gyrchu gofal pan fydd ei angen arnynt, a all effeithio ar ganlyniadau ac ehangu anghydraddoldebau
•    clywsom mai prinder gweithlu yw'r risg fwyaf i wasanaethau weithio yn ymarferol. Clywsom na fydd dim ond newid gwasanaethau yn datrys problemau staffio, a bod yn rhaid i unrhyw gynigion gael eu cefnogi gan gynlluniau gweithlu realistig, sydd wedi'u hariannu ac y gellir eu cyflawni
•    clywsom fod gwasanaethau wedi'u cysylltu'n agos ac mae angen edrych arnynt yn eu cyfanrwydd. Roedd rhai yn pryderu y gallai newidiadau mewn un gwasanaeth gael effeithiau anfwriadol ar eraill, a bod yn rhaid i benderfyniadau ystyried y sgil-effeithiau ar draws gwasanaethau ysbyty, diagnostig a chymunedol
•    clywsom bryderon am gyflwr adeiladau a seilwaith. Roedd pobl yn teimlo bod rhai cynigion yn dibynnu ar adeiladau, gofod neu fuddsoddiad nad ydynt ar gael neu wedi'u gwarantu ar hyn o bryd, a allai gyfyngu ar yr hyn y gellir ei gyflawni'n realistig
•    clywsom fod ymddiriedaeth a hyder yn y broses yn fregus. Mynegodd rhai bryder bod y broses yn teimlo'n gymhleth ac, ar adegau, wedi'i rhagbenderfynu, heb ddigon o eglurder am y dewisiadau anodd sy'n gysylltiedig neu pa gyfaddawdu oedd yn digwydd
•    clywsom y dylai gwasanaethau digidol a rhithiol fod yn rhan graidd o adeiladu gofal, nid yn ychwanegiad. Dywedodd rhai y gallai dulliau rhithiol yn gyntaf leihau teithio a gwella mynediad, ond dim ond os ydynt yn cael eu defnyddio'n gyson, yn ddiogel ac mewn ffyrdd sy'n gynhwysol. Er bod rhai wedi codi pryderon ynghylch mwy o wasanaethau’n symud ar-lein, yn enwedig i bobl nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ddigidol neu sydd â diffyg hyder i’w defnyddio
•    clywsom bwysigrwydd diogelu cydraddoldeb, y Gymraeg a chymunedau gwledig. Dywedodd ymatebwyr wrthym fod effeithiau yn aml yn cyfuno ac yn cronni, yn enwedig i grwpiau gwledig a difreintiedig. Mae’n rhaid i unrhyw gamau i leihau'r effeithiau hyn fod yn glir a chyraeddadwy a’u bod yn cael eu monitro'n briodol yn hytrach na thybio yn eu cylch

Wrth roi gwybod i ni beth oeddent yn ei feddwl yn benodol am wasanaethau strôc. Rhannwyd y canlynol gyda ni:
•    cadw gwasanaethau yn lleol – roedd barn gref iawn ynglŷn â chadw gwasanaethau strôc lleol, yn enwedig yn y canolbarth a’r gorllewin. Roedd deiseb o dros 17,000 o lofnodion yn galw am gadw gwasanaethau yn Bronglais, gan dynnu sylw at ddyfnder a chryfder y farn
•    safbwyntiau'n amrywio'n sylweddol yn ôl lleoliad - roedd y bobl agosaf at Tywysog Philip yn fwy cefnogol i'r opsiynau. Roedd y bobl agosaf at Bronglais a Glangwili yn fwy tebygol o'u gwrthwynebu ac yn teimlo y dylai gwasanaethau aros yn lleol. Roedd y bobl agosaf at Lythyhelyg yn pwysleisio’r angen am wasanaethau 24 awr
•    amseroedd teithio a mynediad o dan y modelau trin a throsglwyddo – codwyd y rhain fel pryder gwirioneddol, yn enwedig teithio i Tywysog Philip o ardaloedd megis gogledd Ceredigion. Roedd amheuon ynghylch a allai Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) fodloni’r galw cynyddol yn ddiogel. Codwyd pryderon hefyd gan y cyhoedd am ddiogelwch y modelau trin a throsglwyddo
•    hygyrchedd i deuluoedd ac ymwelwyr - codwyd llawer o bryderon am yr effaith ar deuluoedd ac ymwelwyr cleifion, yn enwedig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael neu ddim yn bodoli. Byddai hyn yn gwneud ymweliadau rheolaidd a chynorthwyo yn anodd dros bellteroedd maith
•    cyflawnadwyedd ac adnoddau - codwyd cwestiynau gan gynnwys a allai lleihau rolau gweinyddol neu reolaethol helpu i wrthbwyso'r gweithlu clinigol sydd ei angen i ehangu gwasanaethau strôc
•    dryswch ymhlith y cyhoedd - roedd llawer o ymholiadau yn gysylltiedig â sut y byddai trin a throsglwyddo yn gweithio yn ymarferol a beth mae model arbenigol 12 awr yn ei olygu mewn gwirionedd, ochr yn ochr â dryswch ynghylch trafnidiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a glywsom yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, darllenwch ein Hadroddiad Ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol: biphdd.gig.cymru/adroddiad-crynodeb-cynllun-gwasanaethau-clinigol

Yr opsiynau amgen ar gyfer gwasanaethau strôc a rannwyd gyda ni yn ystod yr ymgynghoriad
Yn dilyn y broses ymgynghori, daeth 28 o opsiynau amgen unigryw i law ar gyfer gwasanaethau strôc nad oeddent yn bodloni meini prawf rhwystr. Dyma’r syniadau amgen yn gryno:
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais a Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Glangwili a Tywysog Philip 
•    nedau strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais a Tywysog Philip, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Glangwili a Llwynhelyg 
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais a Glangwili, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais 
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Tywysog Philip a Llwynhelyg, gyda Bronglais yn cael ei gefnogi fel trydydd safle gyda thelefeddygaeth
•    unedau strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Glangwili
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Tywysog Philip ac uned strôc arbenigol 12 awr yn Bronglais, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Glangwili, uned strôc arbenigol 12 awr yn Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg 
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Glangwili ac unedau strôc arbenigol 12 awr ar ôl trin a throsglwyddo yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    unedau strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais a Glangwili, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    unedau strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais a Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Glangwili a Tywysog Philip
•    unedau strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais a Tywysog Philip, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Glangwili a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Llwynhelyg ac unedau strôc arbenigol 12 awr ar ôl trin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili a Tywysog Philip
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais ac unedau strôc arbenigol 12 awr ar ôl trin a throsglwyddo yn Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Glangwili ac unedau strôc arbenigol 12 awr ar ôl trin a throsglwyddo yn Bronglais a Llwynhelyg, gydag uned adsefydlu strôc ar ôl trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip 
•    unedau strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Tywysog Philip ac unedau strôc arbenigol 12 awr ar ôl trin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Tywysog Philip, uned strôc arbenigol 12 awr yn Llwynhelyg, uned strôc arbenigol 12 awr gyda thelefeddygaeth yn Bronglais, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Tywysog Philip, uned strôc arbenigol 12 awr yn Llwynhelyg ac uned adsefydlu therapi strôc yn Bronglais, gyda gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg
•    uned strôc arbenigol 24 awr yn Glangwili, unedau trin a throsglwyddo ac adsefydlu gyda therapyddion ymgynghorol yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    unedau strôc arbenigol 24 awr yn Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    Canolfan Strôc Ranbarthol gynhwysfawr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn darparu unedau strôc ac adsefydlu ar ôl trin a throsglwyddo
•    Canolfan Strôc Ranbarthol gynhwysfawr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn unig
•    Canolfan Strôc Ranbarthol gynhwysfawr yn Glangwili, uned dan arweiniad therapyddion ymgynghorol yn Tywysog Philip a gwasanaethau trin a throsglwyddo yn Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg
•    Canolfan Strôc Ranbarthol gynhwysfawr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gydag uned dan arweiniad therapyddion ymgynghorol yn Tywysog Philip, gyda thrin a throsglwyddo yn Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg.

Roedd dau opsiwn amgen oedd yn bodloni'r meini prawf rhwystr ac a ystyriwyd gan y Bwrdd.
Y gwasanaeth strôc a ddarperir ar hyn o bryd gan Hywel Dda yw unedau strôc yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Phillip a Llwynhelyg.
Opsiwn 106 - yn seiliedig ar Opsiwn A ac yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn Bronglais a Glangwili, ac unedau strôc (staffio arbenigol 12 awr y dydd) yn Tywysog Philip a Llwynhelyg.
Yn yr opsiwn hwn, byddai cleifion yn Bronglais yn cael eu trosglwyddo i Tywysog Philip am eu gofal cychwynnol cyn dychwelyd i Bronglais ar gyfer adsefydlu strôc pellach. 
Opsiwn 210 - yn seiliedig ar Opsiwn B ond yn defnyddio gwahanol safleoedd. Yn cynnwys unedau trin a throsglwyddo yn Tywysog Philip a Llwynhelyg, uned strôc (staffio arbenigol 24 awr y dydd) yn Glangwili ac uned trin a throsglwyddo a strôc (staffio arbenigol 12 awr y dydd) yn Bronglais. 
Byddai cleifion yn Bronglais yn cael eu trosglwyddo i Glangwili am eu gofal cychwynnol cyn dychwelyd i Bronglais ar gyfer gofal pellach ac adsefydlu strôc. 
Ym mhob un o'r opsiynau a ystyriwyd gan ein Bwrdd: 
•    byddai ambiwlans yn mynd â chlaf lle’r amheuir strôc i'w brif ysbyty agosaf 
•    byddai'r sgan asesu cychwynnol (sgan CT fel arfer), yn ogystal â thriniaeth gychwynnol (h.y. thrombolysis) yn cael eu cynnal yn yr ysbyty derbyn, fel sy'n digwydd nawr
•    byddai claf â strôc mwy difrifol yn cael ei drosglwyddo i ganolfan thrombectomi, fel yng Nghaerdydd neu Fryste, fel sy’n digwydd nawr. 

Sut y datblygwyd y syniad cyfunol ar gyfer gwasanaethau strôc
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ond cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud, cynhaliodd y Bwrdd broses ystyriaeth gydwybodol. Mae hyn yn golygu edrych yn ofalus ac ystyried yr holl adborth gan pobl, ochr yn ochr â'r dystiolaeth, cyn symud tuag at unrhyw benderfyniad.
Wrth adolygu ymatebion i'r ymgynghoriad, yn ogystal â data, canllawiau a gwybodaeth newydd am wasanaethau strôc, daeth i’r amlwg nad oedd un opsiwn ar ei ben ei hun yn mynd i'r afael yn llawn â'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth. Fodd bynnag, gwelwyd bod rhai rhannau o wahanol opsiynau a oedd eisoes wedi'u hasesu yn gryfderau a allai weithio'n well pe baent yn cael eu dwyn ynghyd.
Oherwydd hyn, trafododd y Bwrdd syniad cyfunol newydd, sy'n cyfuno elfennau o opsiynau 106 a 210 a awgrymwyd drwy'r ymgynghoriad. Fe'i disgrifiwyd fel syniad, nid opsiwn terfynol, oherwydd nad oedd eto wedi'i brofi na'i ystyried yn yr un modd â'r opsiynau a ymgynghorwyd arnynt a'r opsiynau amgen a rannwyd gyda'r Bwrdd.
Yna cytunodd y Bwrdd i gymryd y syniad cyfunol hwn ymlaen fel opsiwn a ffefrir ar gyfer profi ac ymgysylltu pellach.
Er ei bod yn cael ei gydnabod y gallai Opsiwn 106 ddarparu gwasanaethau ar draws mwy o leoliadau, teimlwyd na fyddai cynnal gwasanaethau mewn tri phrif ysbyty yn mynd i'r afael â heriau o ran chynaliadwyedd staffio.
Er bod Opsiwn 210 yn mynd i'r afael â heriau ynghylch cyrchu gofal strôc i'r rhai yng Ngheredigion, rhannau o Bowys a de Gwynedd, teimlwyd na fyddai'n gynaliadwy cynnal uned strôc acíwt yn Bronglais.
Mae'r syniad cyfunol (opsiynau 106 a 210) yn cynnig dull mwy cynaliadwy ar gyfer Bronglais. Byddai’n ddarparu uned adsefydlu strôc, tra'n dal i grynhoi gwasanaethau gofal strôc acíwt ar un safle. Byddai hyn hefyd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd, yn enwedig gan y rhai sy'n byw yng Ngheredigion, Powys a de Gwynedd, ynghylch amseroedd teithio i gleifion ac ymwelwyr.
Nododd y Bwrdd y gallai'r ymagwedd hwn gryfhau'r gwasanaeth strôc. Byddai’n crynhoi staff ar lai o safleoedd ac yn ymestyn darpariaeth arbenigol y tu hwnt i'r model Llun i Gwener presennol i ddarparu gwell gofal a chanlyniadau i gleifion. Mae ein Bwrdd hefyd yn cydnabod y gallai fod cyfleoedd i ddylunio modelau adsefydlu arloesol a chreadigol a allai gynnig rolau newydd i staff.
Mae'r ail gam hwn o'r ymgynghoriad yn gyfle i ddeall effeithiau'r syniad, clywed barn pobl, a phrofi a allai weithio'n ymarferol cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.
 

02/06/26
010 Yr opsiwn a ffefrir

Y gwasanaeth strôc a ddarperir ar hyn o bryd gan Hywel Dda yw unedau strôc yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Phillip a Llwynhelyg.

O dan yr opsiwn a ffefrir – Byddai uned strôc yn Glangwili gyda staffio arbenigol 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos. Byddai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn dod yn ysbytai trin a throsglwyddo. Byddai cleifion strôc yn cael eu trosglwyddo i Glangwili o'r ysbytai hyn ar gyfer eu gofal strôc acíwt. Hefyd yn Bronglais byddai uned adsefydlu strôc, sy'n golygu y byddai cleifion sy’n byw’n agosach i Bronglais yn cael eu trosglwyddo yn ôl yno o Glangwili ar gyfer eu hadsefydlu yn benodol ar gyfer strôc.

Fel rhan o'r opsiwn a ffefrir, rydym yn siarad am weithio'n rhanbarthol yn y tymor hwy. Byddai hyn yn golygu gweithio'n agosach gyda Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru. Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio. Gallai olygu bod mwy o gleifion o Fyrddau Iechyd cyfagos yn derbyn eu gofal strôc yn Hywel Dda neu fod mwy o gleifion o Hywel Dda yn derbyn eu gofal strôc mewn Bwrdd Iechyd cyfagos.

Sut y byddai’r opsiwn a ffefrir weithio

O dan yr opsiwn hwn, byddai cleifion lle’r amheuir strôc yn cael asesiad strôc brys a thriniaeth gychwynnol cyn gynted â phosib, fel arfer yn eu hysbyty agosaf. Gall hyn gynnwys sgan CT a/neu ddelweddu darlifo CT a allai arwain at Thrombolysis, lle bo hynny'n addas yn glinigol, yn dilyn sganiau ac asesiad cychwynnol. 

A wyddoch chi
Gyda delweddu darlifo CT, sef sgan meddygol sy'n dangos sut mae gwaed yn llifo trwy feinweoedd y corff, gellir ymestyn yr amser thrombolysis hyd at 9 awr o ddechrau strôc a gall ymestyn ffenestr triniaeth thrombectomi.

Os oes angen gofal arbenigol strôc pellach ar glaf ar ôl yr asesiadau cychwynnol, byddai’n cael ei drosglwyddo i'r uned strôc acíwt 24 awr yn Glangwili neu'r canolfannau thrombectomi yng Nghaerdydd neu Fryste, yn ôl eu hanghenion. 

Byddai Glangwili yn darparu staffio strôc arbenigol 24 awr ac adsefydlu i drin cleifion yn ystod eu cyfnod hyper acíwt (sydd fel arfer yn cwmpasu'r 72 awr gyntaf) a'r cyfnod acíwt (fel arfer rhwng tri a deg diwrnod).
Ar ôl yr amser hwn, byddai rhai cleifion yn ddigon da i ddychwelyd adref, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig. Ar gyfer cleifion sydd dal i fod angen triniaeth a chefnogaeth strôc arbenigol pellach mewn ysbyty, byddai hyn yn digwydd yn Glangwili ar gyfer cleifion sy'n byw yn rhan ddeheuol ardal Hywel Dda, neu yn Bronglais ar gyfer cleifion sy'n agosach at safle'r ysbyty hwnnw.
Effeithiau'r opsiwn a ffefrir 
Cyfle i wella safonau gofal strôc 
Mae'r opsiwn a ffefrir yn lleihau bregusrwydd y gwasanaeth strôc ac yn codi safonau trwy ddod â staff at ei gilydd ar draws llai o safleoedd.
Mae'n caniatáu mwy o gydgrynhoi staff arbenigol na rhai o'r opsiynau eraill a ystyriwyd yn flaenorol gan y Bwrdd. Mae’n dwyn gofal arbenigol strôc acíwt ynghyd (y tu hwnt i driniaeth gychwynnol) ar gyfer cleifion strôc yn ardal Hywel Dda mewn un ysbyty. 
Mae'r opsiwn hwn yn lleihau bregusrwydd y gwasanaeth strôc ymhellach oherwydd ei fod yn darparu staffio arbenigol, 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Byddai hyn yn caniatáu 72 awr gyntaf o ofal mwy dwys a chanlyniadau gwell i gleifion. Byddai'r opsiwn hwn yn canolbwyntio therapi strôc arbenigol ar ddau safle, Bronglais a Glangwili, yn hytrach nag ar draws pedwar safle. Byddai hyn yn helpu gyda heriau staffio ac o bosib yn fwy deniadol i ddarpar staff, yn ogystal â gwella safonau clinigol a chanlyniadau cleifion. 
Byddai hyn yn benodol yn ein helpu i fodloni safonau drwy:
•    sicrhau bod gennym y lefelau staffio cywir yn ein huned strôc acíwt a'n huned adsefydlu strôc
•    sicrhau bod gennym rotas staff cynaliadwy fel y gallwn gynnig gwasanaethau saith diwrnod yr wythnos
•    ein galluogi i fodloni mwy o fesurau y Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel drwy gael mynediad at staff a gwasanaethau
•    creu capasiti adsefydlu cymunedol gyda Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig sy'n unol â safonau
•    cynyddu mynediad at glinigau Pwl o Isgemia Dros Dro yn unol â safonau strôc
•    cefnogaeth barhaus i gyfleoedd addysg, hyfforddiant ac ymchwil i bob hyfforddai strôc.

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer gwasanaethau strôc yn nodi gweledigaeth ar gyfer sut y dylid darparu gwasanaethau strôc yng Nghymru. Mae rhan o hyn yn cynnwys dod ag arbenigwyr strôc ynghyd mewn llai o ysbytai i greu Canolfannau Strôc Rhanbarthol Cynhwysfawr. Canolfannau 24 awr, saith diwrnod yr wythnos yw'r rhain sy'n cefnogi'r lefel uchaf o ofal am y 72 awr gyntaf, gan gynnwys thrombolysis, thrombectomi, diagnosis, monitro ac adsefydlu. Ar hyn o bryd nid oes canolfannau o’r fath yng Nghymru, ac mae'r rhaglen genedlaethol ar gyfer strôc yn edrych ar sut y gallwn gynllunio a chyflawni'r rhain yn y dyfodol.

Yn yr opsiwn a ffefrir, rydym yn sôn am weithio rhanbarthol. Gallai hyn olygu:
•    un o'n hysbytai yn cynnal elfennau o Ganolfan Strôc Ranbarthol Gynhwysfawr, gan ei bod yn annhebygol y byddem yn gallu datblygu'r holl wasanaethau y gall Canolfan Strôc Ranbarthol Gynhwysfawr eu darparu (megis thrombectomi), neu
•    gweithio gyda bwrdd iechyd arall yn y rhanbarth sy'n darparu rhannau o'r gwasanaethau hyn i'n cleifion.
Effaith ar drosglwyddiadau rhwng ysbytai
Rydym yn deall gyda'r opsiwn a ffefrir, byddai angen mwy o drosglwyddiadau cleifion na sydd ar hyn o bryd. Dan yr opsiwn hwn, byddai holl gleifion strôc agosaf at Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn cael eu gofal strôc arbenigol yn Glangwili. 
O dan yr opsiwn a ffefrir, o'r 16 claf strôc a dderbynnir yr wythnos ar gyfartaledd, byddai 11 o'r cleifion hyn yn cael eu trosglwyddo i Glangwili o safle ysbyty trin a throsglwyddo. Byddai dau glaf yr wythnos yn cael eu trosglwyddo'n ôl i Bronglais i gael eu hadsefydlu yn yr uned adsefydlu strôc neu'n cael eu rhyddhau i'w cymuned ar gyfer gofal pellach neu i'w cartref. 
Yn ystod yr ymgynghoriad, clywsom fod pobl yn pryderu am gael eu symud ar ôl yr asesiad cychwynnol. Rydym yn cydnabod y gall hyn beri pryder. Rydym eisoes yn gwneud hyn ar gyfer rhai cleifion strôc sydd angen teithio i Gaerdydd neu Fryste ar gyfer thrombectomi, ac mae gennym brosesau ar waith i gefnogi trosglwyddiadau diogel pan fo angen.
Clywsom hefyd fod pobl yn pryderu y byddent yn rhy sâl i gael eu cludo ac yn profi niwed wrth symud rhwng ysbytai. Byddai cleifion sy'n rhy sâl i deithio yn aros lle maent nes ei bod yn ddiogel eu trosglwyddo ar gyfer eu gofal strôc acíwt.
Mae cael cleifion i'r ysbyty a rhwng safleoedd ysbyty yn rhannol o fewn ein rheolaeth. Fodd bynnag, mae teithio ar gyfer staff sy'n cymudo, cleifion sy'n cyrchu gofal, ac ymwelwyr sy'n teithio i weld cleifion, yn bennaf y tu allan i'n rheolaeth. Er mwyn sicrhau bod manteision yr opsiwn a ffefrir yn cael eu gwireddu'n llawn, bydd atebion trafnidiaeth priodol yn hanfodol.
Byddai cleifion y mae angen eu trosglwyddo rhwng safleoedd ysbytai yn cael eu cefnogi drwy drefniant trosglwyddo newydd ac nid y ddarpariaeth ambiwlans cymunedol bresennol a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae angen rhagor o waith i ddeall sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni. 
Yn ystod cam cyntaf ac ail gam ymgynghoriad y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, rydym wedi ystyried amseroedd teithio ar gyfer trosglwyddiadau brys rhwng ysbytai Yn yr opsiwn hwn a ffefrir ar gyfer strôc, gwnaethom ystyried amseroedd teithio cyfartalog ym mhob sir ochr yn ochr ag adborth gan staff ac arolygon cleifion ar gludiant. 
Cynhaliwyd arolwg teithio yn 2023, am 9am ar fore Llun. Darperir yr amseroedd teithio rhwng safleoedd ysbytai. Darperir dau amser ar gyfer pob taith: un ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys, ac un ar gyfer teithio gan ddefnyddio goleuadau a seirennau.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd un awr a 25 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a phedair munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Llwynhelyg, Hwlffordd ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd un awr a 51 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 25 munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Tywysog Phillip, Llanelli ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd un awr a 50 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 29 munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Royal Shrewsbury, Amwythig ar gyfer teithiau nad ydynt ar frys yn cymryd un awr a 55 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 32 munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Princess Royal, Telfrod ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd dwy awr a 17 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 52 munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Ysbyty Gwynedd ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd dwy awr a 12 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 53 munud.
•    Mae teithio o Bronglais, Aberystwyth i Treforys, Abertawe ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd un awr a 49 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd un awr a 30 munud.
•    Mae teithio o Llwynhelyg Hwlffordd i Glangwili, Caerfyrddin ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd 42 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd 38 munud.
•    Mae teithio o Llwynhelyg, Hwlffordd i Tywysog Philip, Llanelli ar gyfer teithiau nad ydynt ar frys yn cymryd un awr a 7 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd 58 munud.
•    Mae teithio o Llwynhelyg, Hwlffordd i Treforys, Abertawe ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd un awr a 6 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd 59 munud.
•    Mae teithio o Glangwili, Caerfyrddin i Tywysog Philip, Llanelli ar gyfer teithiau nad ydynt ar frys yn cymryd 34 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd 27 munud.
•    Mae teithio o Glangwili, Caerfyrddin i Treforys, Abertawe ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd 34 munud, gyda goleuadau a seirennau mae’n cymryd 28 munud.
•    Mae teithio o Tywysog Philip, Llanelli i Treforys, Abertawe ar gyfer teithiau nad ydynt yn frys yn cymryd 18 munud, gyda goleuadau a seirennau mae'n cymryd 14 munud.
Gallwch ddarllen am sut y gwnaethom ddefnyddio data o 2023-2025 i ddeall faint o gleifion y gellid eu trosglwyddo rhwng safleoedd yn y ddogfen 'Mewnwelediadau i gleifion a theithio' sydd ar gael yn adran 'Dogfennau Ategol' ein tudalennau gwe.
Effaith ar deithio i gleifion, staff ac ymwelwyr    
Trwy gydol yr ymgynghoriad, rydym wedi ystyried sut y gallai newidiadau i wasanaethau strôc effeithio ar deithio a thrafnidiaeth i chi, eich hymwelwyr, a'n staff.
O dan yr opsiwn a ffefrir, mae gofal strôc acíwt yn cael ei ddarparu ymhellach o gartref i rai cleifion, a byddai hyn yn cael effaith ar deuluoedd a gofalwyr. 
Gall oedi mewn argaeledd ambiwlansys, amodau tywydd, neu amseroedd teithio hir effeithio ar ddiogelwch cleifion. Gall cleifion sy'n byw mewn rhannau gwledig neu fwy anghysbell o ardal y Hywel Dda wynebu amseroedd teithio a throsglwyddo hirach i gyrchu gwasanaethau strôc. Rydym yn cydnabod bod hyn yn bryder. Yn yr opsiwn a ffefrir, byddai angen i rai cleifion a theuluoedd deithio ymhellach, ond byddai cleifion yn derbyn gofal arbenigol mewn un uned strôc acíwt 24 awr, ac rydym yn disgwyl y byddai hyn yn darparu gofal mwy diogel ac o ansawdd uwch nag y gallwn ei ddarparu ar draws pedwar safle ar hyn o bryd. 
Byddai'r opsiwn hwn yn dibynnu ar gydlynu cryf rhwng adrannau argyfwng, timau strôc, gwasanaethau ambiwlans, delweddu, timau adsefydlu a Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig ar draws sawl safle. Gallai unrhyw ddiffyg mewn cyfathrebu effeithio ar ganlyniadau cleifion. Bydd angen i ni barhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth i leihau'r rhwystrau hyn. Bydd angen i ni hefyd adolygu ein polisïau ein hunain ar sut y gallwn leihau effeithiau unrhyw newid i’r rhai a allai wynebu rhwystrau economaidd-gymdeithasol i gyrchu gofal.
Ni fydd yr opsiwn yn cael ei gyflwyno nes bod cynlluniau trosglwyddo y cytunwyd arnynt ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Nodwyd gan y Bwrdd, wrth benderfynu ymgysylltu ymhellach ar yr opsiwn a ffefrir, bod angen i broses gadarn ar drosglwyddo brys fod ar waith a bod yr opsiwn yn dibynnu ar hyn.
Byddai angen darparu llwyfannau ar-lein hefyd i gadw cyswllt teuluol a byddwn yn anelu at gael pobl adref yn gynt gyda chymorth gwasanaethau cymunedol.
Rydym yn darparu enghreifftiau o ba effeithiau teithio y gallai pobl eu profi yn ein dogfen astudiaethau achos Teulu Jones (sydd ar gael yn yr adran Dogfennau Ategol ar ein gwefan).
Effaith ar staff a heriau staffio
Byddai dod â thimau at ei gilydd ar draws nifer llai o safleoedd, ynghyd â mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth, yn ein helpu i fodloni safonau adsefydlu strôc cenedlaethol yn well. Mae hyn yn cynnwys gwella mynediad i'r mannau adsefydlu gorau a'n helpu i gynyddu’r amser y mae ein cleifion yn derbyn therapi strôc arbenigol. Mae mwy o therapi yn arwain at ganlyniadau gwell.
Ar hyn o bryd, mae cyflawni'r safonau hyn yn heriol oherwydd prinder staff, yn enwedig gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd arbenigol gan gynnwys therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd, a dietegwyr ar draws gwasanaethau strôc acíwt a chymunedol.
Amserlen ei gyflawni
Er mwyn cyflawni'r opsiwn hwn, bydd y newid yn digwydd dros gyfnod hirach na'r opsiynau eraill a ystyriwyd yn flaenorol gan y Bwrdd. Bydd angen lle a buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu uned bwrpasol yn Glangwili. Golyga hyn y bydd gwasanaethau yn symud i Glangwili o ysbytai eraill yn raddol, dros amser.
Cyflawnir hyn drwy ddod â rhannau o unedau strôc o safleoedd eraill i Glangwili dros bedair blynedd gyntaf, tra bydd datblygu gwasanaethau cymunedol hefyd yn digwydd yn ystod yr un cyfnod.
Byddai Tywysog Philip yn dod yn uned trin a throsglwyddo ac adsefydlu strôc o fewn dwy flynedd. Byddai Bronglais yn dod yn uned trin a throsglwyddo ac adsefydlu strôc mewn dwy i bedair blynedd. Byddai'r staffio'n cael ei gynyddu dros yr amser hwn i ddarparu gofal o ansawdd uwch i gleifion. Yn y tymor hwy (mwy na phedair blynedd) byddai uned strôc acíwt arbenigol 24 awr yn Glangwili gydag adsefydlu ar waith. Bryd hynny, byddai Tywysog Philip a Llwynhelyg yn dod yn ysbytai trin a throsglwyddo yn unig.
Credwn y gellir cyflawni’r opsiwn hwn yn llawn ymhen wyth mlynedd. Gallai fod yn gynt na hyn os bydd lle a gweithlu ar gael.
Am ragor o wybodaeth am sut y gellir cyflawni'r opsiwn a ffefrir, ewch i adran 'Dogfennau Ategol' ar ein gwefan.
Cost ei gyflawni
Byddai'r costau ar gyfer cyflawni'r opsiwn hwn yn debyg i'r rhai a ystyriwyd ar gyfer Opsiwn 210. Byddai costau staffio yn cynyddu oddeutu £3.259 miliwn yn yr opsiwn hwn. Byddai costau adeiladau ac offer oddeutu £19.845 miliwn i ddatblygu uned bwrpasol.
Aliniad strategol
Mae'r opsiwn a ffefrir yn alinio â rolau ein hysbytai i’r dyfodol a'n strategaeth 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Iechyd Da, Bywyd Llawn'.
Yn y tymor hwy, y bwriad yw y gallai'r uned strôc acíwt symud i'r ysbyty newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi'i gynllunio, ar ôl iddo gael ei adeiladu. Byddai hyn yn cynnal gofal strôc ochr yn ochr â gwasanaethau brys eraill ar un safle ac yn cefnogi gwasanaeth arbenigol 24/7 mwy cynaliadwy.
Yn ogystal, mae'n alinio â bwriad Rhaglen Strôc GIG Cymru i gael llai o unedau strôc, â’r rheiny yn unedau mwy arbenigol.
Ystyriaethau arall
Byddai’r opsiwn hyn yn galluogi'r gwasanaeth strôc yn Hywel Dda i gymryd rhan mewn mwy o waith ymchwil a phrosiectau Newydd ar strôc. Drwy gael nifer fwy o gleifion strôc yn yr un uned, a staff sy'n canolbwyntio'n llwyr ar waith strôc, mae mwy o gyfleoedd i gynnal prosiectau ymchwil. Mae hyn yn rhywbeth nad yw bob amser yn bosib o dan y model gwasanaeth presennol. Mae ymchwil yn bwysig, gan ei fod yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth a thriniaeth strôc.
Mae cael llai o unedau strôc acíwt mewn ysbytai yn ein galluogi i symud a chreu mwy o rolau yn y gymuned i gefnogi adsefydlu.
 

02/06/26
011 Sut beth fyddai gofal stroc

Sut beth fyddai gofal strôc i gleifion o dan yr opsiwn a ffefrir
Mae gennym deulu - Teulu Jones – a’u ffrindiau sy'n ein helpu i brofi a dangos sut y gallai gwahanol wasanaethau iechyd effeithio ar rywun fel chi neu'ch anwyliaid. Dydyn nhw ddim yn deulu go iawn, ond maen nhw wedi'u cynllunio i fod yn nodweddiadol o'r cleifion rydyn ni'n gofalu amdanynt yn ardal Hywel Dda a'r cymunedau cyfagos. 
Yma gallwch ddarllen sut beth fyddai gofal i gleifion strôc o dan yr opsiwn a ffefrir, yn seiliedig ar y prif safle ysbyty sydd agosaf i chi yn Hywel Dda: 
•    Ysbyty Bronglais 
•    Ysbyty Glangwili
•    Ysbyty Tywysog Philip
•    Ysbyty Llwynhelyg

Ers cyhoeddi dogfen ymgynghori'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ym mis Mai 2025, mae rhai llwybrau clinigol wedi datblygu. Mae'r llwybr presennol a ddisgrifir isod yn ein hastudiaethau achos Teulu Jones yn wahanol i'r hyn a oedd yn y ddogfen ymgynghori flaenorol.
Profiad fel claf strôc i rywun sy'n byw’n agosach i Ysbyty Bronglais nag i ysbyty arall 
Mae Aziz yn 68 oed ac mae'n gweithio ym mwyty y teulu ac yn mwynhau gofalu am ei wyrion. Mae ei wraig yn sylwi nad yw ei hun un prynhawn, mae un ochr ei wyneb wedi cwympo, ac mae’n siarad yn aneglur. Mae hi'n poeni y gallai fod wedi cael strôc ac yn ffonio 999. I ddangos y gwahanol opsiynau ar gyfer strôc, byddwn yn dychmygu bod Aziz yn byw yn Aberystwyth.
O dan yr opsiwn a ffefrir...
Mae ambiwlans yn mynd ag Aziz i Bronglais, ac mae'n cael ei gymryd yn syth i'r sganiwr CT, yn hytrach nag i'r Adran Argyfyngau. Os cadarnheir strôc, mae triniaeth thrombolysis yn cael ei ddechrau tra yn yr adran sganio. Yna mae Aziz yn cael ei symud i'r Adran Argyfyngau cyn cael ei drosglwyddo.
Os nad yw Aziz wedi cael strôc, mae’n mynd i'r Adran Argyfyngau yn Bronglais am brofion pellach.
Os yw Aziz wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Bronglais yn syth i'r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Aziz yn addas i gael ei ryddhau o'u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i'r uned strôc yn Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei adferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Aziz, mae’n cael ei drosglwyddo i'r uned strôc yn Glangwili i gael ei driniaeth strôc acíwt. 
Yn dilyn ei driniaeth strôc acíwt yn Glangwili, os ystyrir bod Aziz yn sefydlog yn feddygol, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i uned adsefydlu Bronglais i gael gofal yn nes at adref, neu ei ryddhau adref gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig.
Profiad fel claf strôc i rywun sy'n byw’n agosach i Ysbyty Llwynhelyg nag i ysbyty arall 
Mae Sonia, 37, yn briod a ganddi ddau fab, ac yn rheoli ei busnes rhan-amser ei hun. Mae hi bob amser yn brysur. Mae pwysedd gwaed uchel arni. Byddwn yn dychmygu bod Sonia yn byw yn Noc Penfro.
Wrth ymweld â ffrind, mae Sonia yn cwyno am gur pen ofnadwy, mae’n dechrau cael problemau gyda'i golwg a'i lleferydd. Mae ei ffrind yn galw ambiwlans gan ei bod yn poeni bod Sonia wedi dioddef strôc. Sut ofal fyddai hi’n ei gael o dan yr opsiwn a ffefrir?
O dan yr opsiwn a ffefrir...
Mae ambiwlans yn mynd â Sonia i Llwynhelyg, ac mae'n cael ei chymryd yn syth i'r Adran Argyfyngau am asesiad, cyn ei throsglwyddo am sgan CT. Os oes strôc yn cael ei gadarnhau, mae’r driniaeth yn dechrau tra yn yr adran sganio. Mae Sonia yn cael ei dychwelyd i'r Adran Argyfyngau cyn cael ei throsglwyddo i'r uned strôc yn Glangwili. 
Os nad yw Sonia wedi cael strôc, mae’n mynd i'r Adran Argyfyngau yn Llwynhelyg am brofion pellach.

Os yw Sonia wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei chludo mewn ambiwlans o Llwynhelyg yn syth i'r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Sonia yn addas i gael ei rhyddhau o'u gofal, mae’n cael ei throsglwyddo yn ôl i'r uned strôc yn Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei hadferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Sonia, mae’n cael ei throsglwyddo i'r uned strôc yn Glangwili i gael ei thriniaeth strôc acíwt ac adsefydlu. 
Efallai y bydd Sonia yn cael ei rhyddhau adref gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig.


Profiad fel claf strôc i rywun sy'n byw’n agosach i Ysbyty Glangwili nag i ysbyty arall 
Mae Rhys yn 52 oed ac yn yrrwr lori hirbell. Mae dros bwysau ac er bod ei ddeiet yn well gartref, mae'n aml yn troi at fwydydd cyflym pan ar y ffordd. Mae Rhys yn byw yng Nghastellnewydd Emlyn, yn Sir Gaerfyrddin, yn agos at y ffin â Cheredigion.
Mae'n mynd yn sâl gyda chur pen ofnadwy ac yn teimlo pendro. Mae’n siarad yn aneglur ac mae ei wraig yn amau strôc ac yn ffonio 999 yn ddi-oed.
O dan yr opsiwn a ffefrir...
Mae ambiwlans yn mynd â Rhys i Glangwili, ac mae'n cael ei gludo'n syth i'r sganiwr CT yn yr uned strôc. Yn dilyn y sgan, mae Rhys yn aros yn yr uned strôc. Os cadarnheir strôc a bod angen triniaeth thrombolysis ar Rhys, mae hyn yn digwydd yn yr uned strôc yn Glangwili.
Os nad yw Rhys wedi cael strôc, mae’n mynd i'r Adran Argyfyngau yn Glangwili i gael profion pellach.
Os yw Rhys wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans i'r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y mae tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Rhys yn addas i gael ei ryddhau o'u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo yn ôl i'r uned strôc yn Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei adferiad yn dilyn thrombectomi.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Rhys, mae’n aros yn yr uned strôc yn Glangwili i gael ei driniaeth strôc acíwt. Efallai y bydd Rhys yn cael ei ryddhau adref gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig.
Profiad fel claf strôc i rywun sy'n byw’n agosach i Ysbyty Tywysog Philip nag i ysbyty arall
Mae Alun yn gyn-drydanwr ac wedi ymddeol. Mae’n angerddol dros rygbi, ac yn 80 oed mae'n mwynhau cerdded bob dydd a gwneud croesair. Mae ganddo hanes o glefyd y galon a chafodd drawiad ar y galon pan oedd yn 70 oed. Mae Alun yn byw yn Llanelli.
Mae ei ferch yn galw i’w weld. Mae braich Alun yn ddideimlad, ei leferydd yn aneglur ac mae’n cael anhawster deall beth mae ei ferch yn dweud wrtho. Mae hi’n ffonio 999.
Mae ambiwlans yn mynd ag Alun i Tywysog Philip, ac mae'n cael ei gymryd yn syth i'r Uned Asesu Meddygol Acíwt, cyn cael ei drosglwyddo am sgan CT. Yna mae Alun yn cael ei ddychwelyd i'r Uned Asesu Meddygol Acíwt cyn ei drosglwyddo i'r uned strôc yn Glangwili. Os cadarnheir strôc a bod angen triniaeth thrombolysis ar Alun, mae hyn yn digwydd yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt. Os nad yw Alun wedi cael strôc, mae’n parhau i fod o dan ofal y tîm meddygol yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt.
(*Os yw cleifion yn hunan-gyflwyno yn yr Uned Mân Anafiadau yn Tywysog Philip, mae'r staff yn actifadu'r alwad strôc a byddant yn dilyn yr un broses â chlaf sy'n cyrraedd mewn ambiwlans.)
Os nad yw Alun wedi cael strôc, mae’n dychwelyd i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt am brofion pellach.
Os yw Alun wedi cael strôc mwy difrifol (gyda rhwystr mawr mewn pibell waed, sef math o strôc lle mae llif y gwaed i brif rhydweli yn yr ymennydd yn cael ei atal), mae’n cael ei gludo mewn ambiwlans o Tywysog Philip yn syth i'r ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd. Mae thrombectomi yn driniaeth y gellir ei defnyddio i drin y mathau hyn o strôc. Darperir y gofal hwn yn rhanbarthol ar gyfer Cymru a rhanbarthau de a gorllewin Lloegr ym Mryste a Chaerdydd.
Unwaith y bydd tîm thrombectomi Bryste neu Gaerdydd yn asesu bod Alun yn addas i gael ei ryddhau o'u gofal, mae’n cael ei drosglwyddo i Glangwili neu’n syth adref, yn dibynnu ar ei adferiad ar ôl thrombectomy.
Os nad thrombectomi yw’r driniaeth gywir i Alun, mae’n cael ei drosglwyddo i’r uned strôc yn Glangwili ar gyfer triniaeth strôc acíwt. Efallai y bydd Alun yn cael ei ryddhau adref gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig.
I gael rhagor o senarios Teulu Jones, gan gynnwys astudiaethau achos ar gleifion sy’n byw mewn ardaloedd Byrddau Iechyd cyfagos ac ar opsiynau a ystyriwyd yn flaenorol sef opsiynau A, B, 106 a 210, ewch i'n dogfen Astudiaethau Achos Teulu Jones, yn adran 'Dogfennau Ategol' ar ein gwefan.

A wyddoch chi?
Ym mhob 100 achos lle’r amheuir strôc:
•    Byddai tua 50 ddim yn strôc. Mae'r rhain yn aml yn cael eu galw'n achosion dynwared ac mae cleifion naill ai'n cael eu rhyddhau neu eu cadw ar gyfer triniaeth arall sy'n gysylltiedig ag arbenigedd
•    Byddai tua 25 o gleifion yn cael eu trosglwyddo i'r uned strôc acíwt 
•    Byddai tua 10 o gleifion yn mynd i Gaerdydd neu Fryste i gael thrombectomi 
•    Byddai tua 10 o gleifion yn cael eu rhyddhau o'r Adran Argyfyngau yn y safleoedd trin a throsglwyddo o fewn 24 awr oherwydd eu bod yn strôc llai 
•    Byddai tua 5 o gleifion ddim yn cael eu trosglwyddo oherwydd anghenion gofal lliniarol 

Felly, dylai ond angen trosglwyddo 1 o bob 4 (25%) claf lle’r amheuir strôc i'r uned strôc acíwt.

Sut beth fyddai’r llwybr o dan yr opsiwn a ffefrir
Mae'r siart llif hwn yn dangos beth allai ddigwydd os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano yn cael strôc o dan yr opsiwn a ffefrir.
 
Mae claf yn cyrraedd yr ysbyty agosaf. Gallai hyn fod yn Ysbyty Bronglais, Ysbyty Glangwili, Ysbyty Tywysog Philip neu Ysbyty Llwynhelyg. Yn yr ysbyty, mae'r claf yn derbyn gofal cychwynnol ac yn cael ei asesu.
Os yw’r claf wedi profi strôc dynwared, unwaith y bydd strôc wedi'i ddiystyru, mae’r claf naill ai’n cael ei drosglwyddo i'r gwasanaeth arbenigedd priodol neu’n cael ei ryddhau fel bo’n briodol. Os ya’r claf wedi cael Pwl o Isgemia Dros Dro, unwaith y bydd wedi derbyn triniaeth ac yn cael ei ystyried yn feddygol iach, mae’n cael ei ryddhau a bydd apwyntiad dilynol yn y clinig Pwl o Isgemia Dros Dro yn cael ei drefnu.
Os yw'r claf wedi cael strôc ac angen gofal a thriniaeth feddygol pellach, mae’r camau nesaf yn dibynnu ar ei gymhwysedd ar gyfer ymyriadau arbenigol.
Os nad yw'r claf yn gymwys ar gyfer thrombolysis na thrombectomy, mae’n cael ei drosglwyddo'n syth o'r ysbyty derbyn i’r Uned Strôc yn Glangwili, sy’n gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Os yw'r claf yn gymwys ar gyfer thrombolysis, mae’n cael y driniaeth hon yn yr ysbyty derbyn. Os yw’r claf hefyd yn gymwys ar gyfer thrombectomi, mae’n cael ei drosglwyddo’n syth i uned thrombectomi yng Nghaerdydd neu Fryste.
Os nad yw'’r claf yn gymwys ar gyfer thrombectomi yn dilyn asesiad, mae’n cael ei drosglwyddo i’r uned strôc yn Glangwili.
Efallai y bydd adegau pan fydd y tîm strôc yn penderfynu nad yw'n briodol trosglwyddo claf. Mewn achosion o’r fath, mae’r claf yn aros yn yr ysbyty derbyn.
Ar gyfer gofal yn ystod y cyfnod acíwt, mae claf strôc yn cael ei drin yn Glangwili.
Ar ôl y cyfnod acíwt, mae’r claf naill ai’n cael ei drosglwyddo yn ôl i Bronglais neu'n aros yn Glangwili i adsefydlu.
Pan mae’r claf yn baros i adael ysbyty, mae’n cael ei ryddhau a, lle bo'n briodol, yn derbyn Adsefydlu Strôc Arbenigol Cymunedol gan gynnwys cefnogaeth Rhyddhau Cynnar â Chymorth.
Beth yw trin a throsglwyddo?
Trin a throsglwyddo mewn strôc yw pan fydd claf lle’r amheuir strôc yn cael ei gymryd yn gyntaf (neu'n dod) i'w Adran Argyfyngau neu Uned Asesu Meddygol Acíwt agosaf. Maent yn cael asesiad brys ac unrhyw driniaeth lle mae amser yn factor critigol (fel thrombolysis) yno. Yna, os oes angen gofal strôc acíwt dan arweiniad arbenigol, maent yn cael eu trosglwyddo, mewn cludiant priodol (ambiwlans fel arfer) i uned strôc acíwt neu ganolfan thrombectomi mewn ysbyty arall.

Mae rhai cleifion yn Hywel Dda eisoes yn teithio ar gyfer gofal strôc. Mae angen gweithdrefn o'r enw thrombectomi ar gleifion sy'n dioddef math penodol o strôc. Mae angen y llawdriniaeth er mwyn cael gwared ar y clot, a bydd cleifion naill ai'n mynd i Gaerdydd neu Fryste am y gofal hwnnw.

Rydym yn deall o'r adborth a glywsom yng ngham cyntaf yr ymgynghoriad bod y model trin a throsglwyddo yn rhywbeth y mae ein cymunedau'n poeni yn ei gylch. Rydym am roi sicrwydd i gleifion a'u hanwyliaid nad yw modelau trin a throsglwyddo yn newydd mewn gofal strôc. Ers blynyddoedd lawer, mae cleifion yng Nghymru wedi cael eu hasesu a'u trin yn eu hysbyty lleol ac yna eu trosglwyddo i ganolfannau thrombectomi pan fydd angen triniaeth strôc fwy datblygedig. Defnyddir dull trin a throsglwyddo hefyd mewn argyfyngau eraill lle mae angen gofal arbenigol, fel rhai mathau o drawiad ar y galon, trawma neu broblemau fasgwlaidd.
  
O dan yr opsiwn a ffefrir, ein ffocws yw sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal strôc acíwt cywir cyn gynted â phosibl, tra'n cadw cymaint o ofal mor lleol ag y gallwn. Trwy gryfhau ansawdd gofal yng nghyfnodau cynnar strôc, efallai y bydd mwy o bobl yn gallu dychwelyd adref yn gynt, gyda chefnogaeth Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig lle bo hynny'n briodol.

A wyddoch chi? Er bod amser yn bwysig mewn gofal strôc, mae'r awr aur yn gysylltiedig â gofal trawma. Mae trawma yn wasanaeth arbenigol, ochr yn ochr ag orthopedeg, i gefnogi pobl ag anafiadau difrifol. Nid oedd hyn yn rhan o'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol nac wedi'i gynnwys fel rhan o'r ymgysylltiad ar gyfer y cam hwn o'r ymgynghoriad. Caiff cleifion â'r trawma mwyaf difrifol eu trosglwyddo i Gaerdydd.

Felly, er bod yr awr gyntaf yn bwysig mae yna fframiau amser eraill sy'n bwysicach. Er enghraifft, y ffrâm amser ar gyfer thrombolysis yw o fewn pedair awr a hanner, i ddarparu'r gofal a'r canlyniadau gorau i gleifion strôc.

Beth yw uned strôc acíwt? 

Yn yr opsiwn a ffefrir, byddem yn datblygu uned strôc arbenigol 24 awr yn Glangwili.

Mae uned strôc acíwt 24 awr yn uned bwrpasol mewn ysbyty lle mae pobl sydd wedi cael strôc yn derbyn gofal parhaus, bob awr o’r dydd a’r nos gan dîm strôc arbenigol. Mae hyn yn cynnwys mynediad cyflym at asesu, triniaeth, monitro ac adsefydlu cynnar, yn unol â safonau strôc cenedlaethol.

Mae cleifion fel arfer yn aros ar uned strôc acíwt am gyfnod byr, sydd fel arfer tua 72 awr. Gelwir hyn y cyfnod hyper acíwt. Fel arfer dilynir hyn gan arhosiad hirach o tua saith diwrnod (gall fod rhwng tri a 10 diwrnod), yn dibynnu ar gynnydd, a’r enw arno yw’r cyfnod acíwt. Yn ystod y cyfnod hwn, maent yn cael gofal gan dîm strôc arbenigol, gan gynnwys ymgynghorwyr, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd oll yn arbenigwyr.
  
Mae'r tîm arbenigol hwn yn cydweithio'n agos i ddarparu gofal cynnar dwys a lleihau'r risg o gymhlethdodau. Os digwydd unrhyw gymhlethdodau, gellir eu nodi a'u rheoli cyn gynted â phosibl. Mae gofal o ansawdd uchel yn y camau cynnar hyn yn cefnogi adferiad ac yn helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref yn gynt, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig lle bo hynny'n briodol. Dengys tystiolaeth bod hyn yn gwella canlyniadau i bobl sydd wedi cael strôc. 


Beth yw uned adsefydlu strôc
Mae uned adsefydlu strôc yn cefnogi cleifion wrth iddynt barhau â'u hadferiad ar ôl y cyfnod cynnar o ofal strôc hyper ac acíwt. Ffocws yr unedau hyn yw helpu pobl i adennill annibyniaeth trwy adsefydlu cydgysylltiedig. Er enghraifft helpu claf i fwyta ac yfed yn ddiogel neu ymolchi a gwisgo'n annibynnol. Mae hyn yn cael ei ddarparu gan dîm amlddisgyblaethol arbenigol, sy’n cydweithio gyda nodau cyffredin i helpu i gefnogi'r claf yn ei adferiad. Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, nyrsys a staff meddygol sydd ag arbenigedd mewn adferiad strôc. 

Trwy gydol y llwybr strôc, mae gofal wedi'i deilwra i anghenion unigol pob person. Gall adsefydlu gynnwys cymorth gyda gweithgareddau bob dydd, adferiad corfforol, cyfathrebu, gwybyddiaeth (sef gallu’r ymennydd i brosesu gwybodaeth, i gofio pethau ac i ddatrys problemau bob dydd), a llesiant emosiynol, ochr yn ochr â chynllunio cynnar ar gyfer rhyddhau ac adferiad parhaus gartref neu o fewn y gymuned.
Mae teuluoedd a gofalwyr yn cymryd rhan lle bynnag y bo modd, gan gydnabod eu rôl bwysig mewn adferiad. Y nod cyffredinol yw cefnogi pobl i wella'n ddiogel ac i ddychwelyd i fywyd bob dydd, a hynny mor annibynnol a llawn â phosib.
Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig
Mae Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig yn helpu pobl i symud o ofal ysbyty i ofal cymunedol yn dilyn strôc, ar gyfer cleifion sy'n bodloni meini prawf Rhyddhau Cynnar â Chymorth a meini prawf nad ydynt yn rhai Rhyddhau Cynnar â Chymorth. Mae tîm amlddisgyblaethol arbenigol yn darparu adsefydlu cynnar a chefnogaeth i unrhyw un sydd ei angen ar ôl gadael yr ysbyty. Mae'r gwasanaeth integredig yn dwyn ynghyd wasanaethau presennol, gan gynnwys Rhyddhau Cynnar â Chymorth ac adsefydlu strôc cymunedol mewn un gwasanaeth. 
Mae’n gweithio fel un gwasanaeth gydag un rhestr cleifion a rennir. Mae'r Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig yn darparu tri llwybr gofal, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn: 
1.    Rhyddhau adref gyda chymorth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig
2.    Rhyddhau adref gyda chymorth y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig a gofal cymdeithasol
3.    Rhyddhau i gartref preswyl neu gartref nyrsio 

Darperir cymorth am hyd at chwe mis, gyda'r opsiwn i gyfeirio yn ôl at y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig os nodir nodau adsefydlu pellach. Gall y Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig gael ei ddarparu gan un tîm sy'n darparu'r gwasanaeth llawn, neu gan sawl gwasanaeth sy'n cydweithio fel un model.

Beth yw Rhyddhau Cynnar â Chymorth? 
Mae gwasanaethau Rhyddhau Cynnar â Chymorth ar gyfer strôc yn fwyaf effeithiol i gleifion ag anabledd ysgafn i gymedrol (hyd at 40% o gleifion). Mae gwasanaethau Rhyddhau Cynnar â Chymorth yn helpu oedolion i adael yr ysbyty yn gynt ar ôl strôc a pharhau â'u gofal yn y gymuned. Gall gefnogi cleifion i gael eu hadsefydlu gartref, gyda'r un dwyster ac arbenigedd ag y byddent yn ei dderbyn yn yr ysbyty.
Efallai na fydd hyn yn addas ar gyfer pob oedolyn sydd wedi cael strôc neu ym mhob amgylchiad. Mae'r penderfyniad i gynnig Rhyddhau Cynnar â Chymorth yn cael ei wneud gan y tîm strôc amlddisgyblaethol craidd yn dilyn trafodaeth gyda'r unigolyn sydd wedi cael strôc, a'i deulu neu ofalwr os yw'n berthnasol. 
 

02/06/26
012 Sut wnaethom asesu'r opsiwn a ffefrir

Meini prawf rhwystr yw'r hyn rydyn ni'n ei ddefnyddio i asesu addasrwydd opsiynau pan fydd angen newid gwasanaeth, fel y cafodd eu cynnwys yn ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Dyma ddisgrifio sut y cafodd yr opsiwn ei werthuso gan y gwasanaeth.
Caiff yr opsiwn a ffefrir ei asesu o dan bum categori: cynaliadwy yn glinigol, cyflawnadwy, hygyrch, wedi'i alinio'n strategol, a chynaliadwy yn ariannol. Nodir y lefelau risg mewn lliw – gwyrdd ar gyfer risg isel, ambr ar gyfer risg ganolig a choch ar gyfer risg uchel.
Mae cynaliadwyedd glinigol yr opsiwn a ffefrir wedi'i raddio'n wyrdd (risg isel). Mae hyn oherwydd bod dod â thimau arbenigol ynghyd yn cefnogi gwydnwch y gweithlu, hyfforddiant, recriwtio a darparu gwasanaeth 24/7.
Mae darpariaeth yr opsiwn a ffefrir hefyd wedi'i raddio'n wyrdd (risg isel), a hyn oherwydd:
• Byddai dod â'r gwasanaethau ynghyd ar un safle yn gofyn am fwy o amser i greu'r lle sydd ei angen yn Glangwili. Credir bod yr opsiwn yn bodloni'r meini prawf rhwystr (y gellir eu darparu o fewn 0-4 blynedd) gan fod llawer o'r newidiadau'n digwydd yn yr amser hwn i gefnogi'r gwasanaeth i fynd i'r afael â'u problemau.
• Byddai Gwasanaethau Strôc Cymunedol Integredig yn cael eu datblygu yn y cyfnod gwella 2-4 blynedd.
• Byddai Tywysog Philip yn dod yn uned trin a throsglwyddo ac adsefydlu strôc ym mlynyddoedd 0-2 a byddai Bronglais yn dod yn uned trin a throsglwyddo ac adsefydlu strôc ymhen 2-4 blynedd.
• Unwaith y bydd yr uned strôc acíwt wedi'i chomisiynu yn Glangwili yn y tymor hwy (mwy na 4 blynedd), byddai Tywysog Philip a Llwynhelyg yn dod yn ysbytai trin a throsglwyddo yn unig.
• Mae'r ddarpariaeth gam wrth gam hon yn debyg i opsiynau eraill y Cynllun Gwasanaethau Clinigol lle cymerwyd camau o fewn y cyfnod gweithredu a gwella i fynd i'r afael â materion allweddol, tra bod angen mynd i'r afael â meysydd eraill yn y tymor hwy (mwy na 4 blynedd) fel Radioleg ac Endosgopi.
Mae hygyrchedd yr opsiwn a ffefrir wedi'i raddio'n ambr (risg ganolig). Mae hyn oherwydd:
• Byddai gan gleifion fynediad gwell at arbenigedd strôc arbenigol a diagnosteg uwch, ond nid yw mynediad daearyddol yn gyfartal ar draws yr ardal.
• Bydd angen i fwy o bobl deithio ymhellach am ofal acíwt ac adsefydlu, gan gynyddu dibyniaeth ar wasanaethau trafnidiaeth a chreu pwysau ar deuluoedd, gofalwyr a staff.
• Gellir gwella hygyrchedd trwy wasanaethau strôc cymunedol, clinigau Pwl o Isgemia Dros Dro lleol, ac atebion trafnidiaeth wedi'u hariannu ond heb y rhain, mae mynediad yn dod yn risg allweddol.
Mae aliniad strategol yr opsiwn a ffefrir wedi'i raddio'n wyrdd (risg isel). Mae hyn oherwydd bod yr opsiwn wedi'i alinio â'r Rhaglen Strôc Genedlaethol, gyda llai o unedau'n darparu gofal arbenigol, strategaeth hirdymor leol a rôl safleoedd ysbytai.
Mae cynaliadwyedd ariannol wedi'i raddio'n ambr (risg ganolig). Mae hyn oherwydd bod yr opsiwn a ffefrir yn dibynnu ar gyllid llawn ar gyfer y gweithlu, trafnidiaeth ac ystadau, ac ar allu tyfu a chadw'r gweithlu arbenigol sydd ei angen.

Sgorio'r opsiwn
Cafodd yr opsiwn ei sgorio yn yr un modd â'r opsiynau a ystyriwyd eisoes gan y Bwrdd, gan ddefnyddio'r un pwys ar gyfer meini prawf a chan yr un Grŵp Datblygu Opsiynau. Oherwydd gwahaniaethau yn nifer y mynychwyr, mae'r sgoriau isod yn dangos y sgôr gymharol yn seiliedig ar y sgôr uchaf y gellid ei ddyfarnu gan y ddau grŵp fel y gellir eu cymharu'n hawdd.
Mae'r sgoriau'n dangos pa feini prawf yr oedd angen eu bodloni a'r sgoriau a dderbyniwyd ar gyfer pob un o'r opsiynau - yr Opsiwn a Ffefrir, Opsiwn A, Opsiwn B, Opsiwn 106 ac Opsiwn 210 a'r meini prawf yr oedd angen eu bodloni.
Nifer y cleifion sy'n debygol o fod angen cludiant rhwng safleoedd pan fyddant yn sâl yn 55% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 52% ar gyfer Opsiwn A, 46% ar gyfer Opsiwn B, 54% ar gyfer Opsiwn 106, a 50% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae cydymffurfiaeth neu fodloni safonau ar ei uchaf yn yr Opsiwn a Ffefrir sef 80%, ac yna 62% ar gyfer Opsiwn A, 60% ar gyfer Opsiwn B, 51% ar gyfer Opsiwn 106, a 46% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae'r effaith ar wasanaethau mewnol (megis Adrannau Argyfyngau) yn 61% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 56% ar gyfer Opsiwn A, 45% ar gyfer Opsiwn B, 52% ar gyfer Opsiwn 106, a 51% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae'r effaith ar wasanaethau allanol (megis Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) yn 65% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 44% ar gyfer Opsiwn A, 39% ar gyfer Opsiwn B, 53% ar gyfer Opsiwn 106, a 52% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae cynaliadwyedd clinigol, yn seiliedig ar alw cleifion am y gwasanaeth, yn 72% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 60% ar gyfer Opsiwn A, 53% ar gyfer Opsiwn B, 48% ar gyfer Opsiwn 106, a 49% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae cynaliadwyedd y gweithlu dros y ddwy i bedair blynedd nesaf yn 61% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 48% ar gyfer Opsiwn A, 37% ar gyfer Opsiwn B, 46% ar gyfer Opsiwn 106, a 39% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae cynaliadwyedd ariannol, yn seiliedig ar y gwahaniaeth cost rhwng nawr a phob opsiwn, yn 49% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 52% ar gyfer Opsiwn A, 44% ar gyfer Opsiwn B, 50% ar gyfer Opsiwn 106, a 49% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae gostyngiad mewn rhestrau aros ar draws diagnosteg, triniaethau, a llawfeddygaeth yn 65% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 56% ar gyfer Opsiwn A, 52% ar gyfer Opsiwn B, 55% ar gyfer Opsiwn 106, a 57% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae amserau teithio cleifion i safleoedd yn 59% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 40% ar gyfer Opsiwn A, 38% ar gyfer Opsiwn B, 50% ar gyfer Opsiwn 106, a 51% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae effaith amserau teithiau trosglwyddo yn 59% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 50% ar gyfer Opsiwn A, 41% ar gyfer Opsiwn B, 50% ar gyfer Opsiwn 106, a 52% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae'r effaith ar gymunedau lleol wrth ddatblygu safleoedd cymunedol yn 65% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 47% ar gyfer Opsiwn A, 40% ar gyfer Opsiwn B, 48% ar gyfer Opsiwn 106, a 48% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae'r effaith ar staff a chleifion sydd angen teithio am ofal rhanbarthol yn 66% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 42% ar gyfer Opsiwn. A, 36% ar gyfer Opsiwn B, 49% ar gyfer Opsiwn 106, a 43% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae faint o weithgarwch sy'n digwydd mewn lleoliad cymunedol yn 60% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 49% ar gyfer Opsiwn A, 40% ar gyfer Opsiwn B, 46% ar gyfer Opsiwn 106, a 48% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae'r effaith ar ganlyniadau iechyd poblogaethau yn 70% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 61% ar gyfer Opsiwn A, 50% ar gyfer Opsiwn B, 48% ar gyfer Opsiwn 106, a 51% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae mynd i'r afael â rhwystrau i ofal (megis trafnidiaeth a chymorth i gleifion) yn 61% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir ac Opsiwn A, o'i gymharu â 52% ar gyfer Opsiwn B, 52% ar gyfer Opsiwn 106, a 59% ar gyfer Opsiwn 210.
Mae mynd i'r afael â rhwystrau i gydraddoldeb yn 62% ar gyfer yr Opsiwn a Ffefrir, o'i gymharu â 52% ar gyfer Opsiwn A, 45% ar gyfer Opsiwn B, 50% ar gyfer Opsiwn 106, a 50% ar gyfer Opsiwn 210.

Crynodeb o'r effeithiau a nodwyd
Mae'r gwasanaethau wedi cofnodi'r effeithiau canlynol yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Fel rhan o ail gam yr ymgynghoriad, byddem yn croesawu unrhyw sylwadau pellach sy'n gysylltiedig ag effeithiau posibl yr opsiwn a ffefrir: 
Effeithiau negyddol:
•    Efallai y bydd amseroedd teithio a chostau teithio yn effeithio'n negyddol ar rai cleifion a'u hymwelwyr gan y gallai fod angen iddynt deithio ymhellach i gael gofal 
•    Bydd rhai cleifion yn cael eu cludo i'r safle cywir gan y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, ar gyfer teithiau dychwelyd adref, neu ar gyfer ymwelwyr, efallai y bydd teithiau hirach a chost ychwanegol naill ai mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus 
•    Efallai y bydd angen i rai staff deithio ymhellach i weithio mewn safleoedd amgen a allai arwain at gostau teithio ychwanegol, gofal plant ac anghenion gofalwyr.
 
Effeithiau cadarnhaol:
•    Mae gwasanaethau a ddarperir ar draws llai o safleoedd yn dod â gwahanol weithwyr proffesiynol at ei gilydd i weithio. Mae hyn yn well defnydd o adnoddau a byddai'n gwella ansawdd y gwasanaeth a pharhad gofal i gleifion 
•    Mae strôc yn cael ei ystyried yn arbenigedd. Mae'r model rhwydweithiol sy'n cael ei ddatblygu a'i gynnig gan y rhaglen genedlaethol yn golygu bod yr opsiwn a ffefrir yn alinio â'r hyn sy'n digwydd yn genedlaethol 
•    Dylem weld gostyngiadau yn hyd arhosiad cleifion strôc yn yr ysbyty oherwydd y mynediad at ddiagnosteg, gweithwyr proffesiynol meddygol a pherthynol i iechyd, a hynny am fwy o oriau'r wythnos
•    Byddai uned strôc acíwt bwrpasol yn Hywel Dda yn gwella recriwtio a chadw staff
•    Byddai timau ambiwlans yn cael mynediad at brysbennu dros fideo cyn ysbyty i gefnogi’r cam o gael cleifion i'r lle iawn, i dderbyn y gofal gorau. 
•    Byddai clinigydd strôc ar gael 24/7 i gefnogi timau mewn safleoedd heb uned strôc bwrpasol am gyfnod hirach, gan eu helpu i wneud y penderfyniadau cywir ynghylch triniaeth ar gyfer cleifion. Bydd hyn yn denu mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant.
•    Ysbyty Glangwili sydd â'r nifer fwyaf o staff sy'n siarad Cymraeg yn yr uned strôc bresennol a fyddai’n gallu cefnogi cleifion Cymraeg eu hiaith a’u teuluoedd.

Rydym yn parhau i ystyried ffyrdd o leihau risgiau neu effeithiau negyddol ar ein cymunedau. Yn yr ail gam hwn o'r ymgynghoriad, rydym yn dal i fod eisiau clywed eich barn ar sut y gallwn helpu i gefnogi pobl i gael gwell mynediad at wasanaethau strôc, os dewisir yr opsiwn a ffefrir. Isod mae rhai o'r syniadau rydyn ni wedi'u clywed hyd yn hyn:  
•    Gwell cysylltiadau trafnidiaeth rhwng ysbytai, archwilio partneriaethau cyhoeddus/preifat, bysiau gwennol rhwng safleoedd ac ati 
•    Partneru â chwmnïau trafnidiaeth lleol i gynnig disgownt neu dalebau teithio ar gyfer teithiau neu gyfnodau amser penodol, yn ogystal ag adolygu costau teithio / tacsi â chymorth 
•    Gwasanaethau cludiant cymunedol a gwirfoddol ar gael i gleifion nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd i'w galluogi i dderbyn cludiant cleifion nad ydynt yn deithiau argyfwng 
•    Gallai rhai cleifion fod â hawl i help gyda chostau cludo yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Mae cyngor a gwybodaeth am gludo cleifion ar gael ar ein tudalennau gwe, chwiliwch am 'cludiant cleifion', neu drwy ofyn yn swyddfa gyffredinol pob prif ysbyty 
•    Dynodi ystafelloedd neu barthau tawel, gwella mannau ymwelwyr mewn ysbytai, gwella arwyddion. Sicrhau hygyrchedd a chysur cleifion mewn mannau cyhoeddus
•    Cyfeirio staff at gyfleusterau gofal plant cyfagos fel gwasanaethau gofal dydd a meithrin os ydynt yn cael eu heffeithio gan newidiadau lleoliad 
•    Annog rhannu ceir a thrafnidiaeth gynaliadwy lle bo modd.

Nodweddion gwarchodedig a chydraddoldeb
Gall rhai pobl sydd â nodwedd warchodedig fod yn fwy difreintiedig neu'n wynebu mwy o anawsterau wrth geisio cyrchu gwasanaethau gofal iechyd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn waeth na phobl eraill oherwydd: 
•    oedran  
•    anabledd 
•    ailbennu rhywedd 
•    priodas a phartneriaeth sifil 
•    beichiogrwydd a mamolaeth 
•    hil 
•    crefydd a chred (gan gynnwys dim cred grefyddol) 
•    rhyw 
•    cyfeiriadedd rhywiol

Mae asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys trosolwg o effeithiau cadarnhaol a negyddol posib y gall newid ei gael ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn eu lliniaru ac yn mynd i'r afael â'n dyletswyddau cydraddoldeb.
Mae’r asesiad hefyd yn ystyried yr effeithiau posibl y gall unigolion eu profi oherwydd bod yn rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, eu sefyllfa gymdeithasol a/neu economaidd, a'r Gymraeg. 
Yn ein polisïau a sut rydym yn gweithio, mae'n rhaid i ni:
•    gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi'i wahardd gan neu o dan y Ddeddf 
•    datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt yn eu rhannu 
•    meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt y neu rhannu. 

Ein nod hefyd yw: 
•    dileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy'n gysylltiedig â'r nodwedd honno 
•    bodloni anghenion pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol sy'n wahanol i anghenion pobl nad ydynt yn ei rhannu 
•    annog pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn unrhyw weithgaredd arall lle mae cyfranogiad pobl o'r fath yn anghymesur o isel  
•    ystyried sut y byddwn yn mynd i'r afael â rhagfarn a dealltwriaeth.

Rydym wedi cynhyrchu asesiadau effaith ar gyfer yr opsiwn a ffefrir ar gyfer gwasanaethau strôc ar draws Hywel Dda.
Mae'r rhain yn cwmpasu'r newidiadau arfaethedig ar: 
•    iechyd
•    vydraddoldeb
•    yr amgylchedd a chynaliadwyedd
•    ansawdd
•    iechyd poblogaethau 

Gallwch ddarllen mwy yn y fersiwn gyfredol lawn o'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn yr adran dogfennau ategol ar ein gwefan https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc
Bydd yr asesiadau yn cael eu defnyddio i helpu ein Bwrdd wrth wneud penderfyniad terfynol ar sut y bydd gwasanaethau strôc yn cael eu darparu yn y dyfodol yn Hywel Dda.

Y Gymraeg
Mae 45 y cant o bobl yn ardal Hywel Dda yn siarad Cymraeg, sy'n uwch na’r cyfartaledd ledled Cymru. 
Rydym yn gwybod bod hwn yn fater sy'n effeithio ar lawer o gleifion ar draws ein holl wasanaethau a safleoedd. Mae gennym raglen barhaus i gefnogi staff i ddefnyddio'r Gymraeg. Rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hyn i gleifion allu cyfathrebu, ac y gall strôc effeithio ar allu ieithyddol. 
Rydym yn parhau i wneud cynnydd tuag at gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn golygu sicrhau bod yr holl gyfathrebu, gan gynnwys digidol, print ac arwyddion, yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), ac nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Rydym yn ymdrechu i hyrwyddo amgylchedd dwyieithog i bawb. Rydym yn cefnogi ein staff i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg yn ein gweithleoedd a'n cymunedau. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg heb orfod gofyn fel y disgrifir yng nghynllun 'Mwy na Geiriau' Llywodraeth Cymru. 
Mae gennym darged i sicrhau bod gan 50% o'n gweithlu lefel sylfaen o Gymraeg erbyn 2032. Rydym yn adrodd ar ein cynnydd drwy ein Hadroddiad Blynyddol ar y Gymraeg sydd i'w weld ar ein gwefan. Mae'r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb llawn yn darparu rhagor o fanylion am sut y gallai'r newidiadau gwasanaeth effeithio ar y Gymraeg, ond byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ac adborth arall. 
Cymryd rhan
Rydyn ni wir eisiau clywed gennych. Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan a rhannu eich barn ar gael yn ein hysbytai a'n safleoedd cymunedol a thrwy sefydliadau'r sector gwirfoddol. Byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio, sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, y mae croeso i chi eu mynychu i ddarganfod mwy ac i rannu eich barn. 
Gellir dod o hyd i fanylion am ble a phryd y byddwch chi'n gallu dod i gwrdd â ni ar ein gwefan https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. 
Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda'r cyfryngau lleol, gan gynnwys sefydliadau radio a'r wasg i godi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad hwn. 
Rydym yn gwerthfawrogi eich bod chi'n cymryd yr amser i rannu eich barn. Mae mewnbwn pob person yn bwysig a bydd yn helpu i lunio gwasanaethau strôc yn ein hardal i’r dyfodol. Cymerwch amser i ddarllen y ddogfen hon a cofiwch rannu eich barn â ni erbyn 26 Gorffennaf 2026.
Gallwch wneud hyn drwy:
•    lenwi’r holiadur ar-lein https://qrco.de/holiadur-stroc  (gallwch ofyn am gopi drwy anfon e-bost atom neu ein ffonio ar y rhif isod)
•    ei bostio i: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD (does dim angen stamp)
•    ebostio: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
•    dod i siarad â ni yn un o'n digwyddiadau (ewch i'n gwefan am ddigwyddiad sy’n lleol i chi neu ar-lein), neu drwy ffonio 0300 303 8322, opsiwn 5 (pris galwad leol) 
 

02/06/26
013 Datganiad preifatrwydd

Anhysbysrwydd a chyfrinachedd ymatebion
Mae eich ymatebion i'r arolwg hwn yn cael eu casglu a'u dadansoddi mewn ffordd y bwriedir fod yn ddienw. Nid ydym yn gofyn am eich enw na'ch manylion cyswllt a dim ond ar ffurf gryno y bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu hadrodd.
Byddwch yn ymwybodol, os dewiswch gynnwys gwybodaeth amdanoch chi'ch hun mewn meysydd ymateb testun rhydd, y gall y wybodaeth hon eich gwneud yn adnabyddadwy, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Felly, rydym yn eich annog i beidio â chynnwys enwau, teitlau swyddi penodol, lleoliadau, neu fanylion eraill a allai eich adnabod chi neu eraill, oni bai eich bod yn gyfforddus yn gwneud hynny.
Tua diwedd yr arolwg, rydym yn gofyn cwestiynau dewisol am nodweddion fel oedran, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, statws priodasol neu bartneriaeth, statws lluoedd arfog, cyfrifoldebau gofalu, iaith, incwm cartref, a rhan o'ch cod post. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u cynnwys i'n helpu i ddeall amrywiaeth profiadau a sicrhau cydraddoldeb a thegwch.
Ar eu pen eu hunain, nid yw'r cwestiynau hyn yn eich gwneud yn adnabyddadwy. Fodd bynnag, mewn achosion prin, gall cyfuniad o atebion gynyddu'r risg y gallai rhywun gael ei adnabod, yn enwedig mewn timau neu grwpiau poblogaeth llai.
Er mwyn diogelu eich preifatrwydd, rydym yn defnyddio mesurau diogelwch priodol, gan gynnwys adrodd cyfanredol ac atal niferoedd bach, ac ni fydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
Gellir cyhoeddi barn a ddarperir gan sefydliadau neu bobl sy'n gweithredu yn rhinwedd eu swydd yn llawn. 
Bydd ein dadansoddiad a'n hadroddiad allbwn yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o'r Bwrdd Cyhoeddus a bydd ar gael ar ein gwefan. Bydd hyn yn cael ei rannu â Llais am eu sylwadau. Llais yw'r corff statudol annibynnol sy'n rhoi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Caiff y data personol a gyflwynwch ei brosesu gan y Bwrdd Iechyd gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd, sef ymgynghori. Dyma'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu o dan ddeddfwriaeth diogelu data.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn prosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn unol â'r rheoliadau diogelu data diweddaraf. Bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir am ddim mwy na blwyddyn ar ôl i unrhyw benderfyniadau gael eu cwblhau. 
Bydd themâu cyffredinol a godir gan gymunedau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd, ond nid gwybodaeth bersonol, yn cael eu casglu fel y gellir cynnwys y rhain yn yr adroddiad allbwn. 
Hysbysiad preifatrwydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda
I weld ein datganiad preifatrwydd yn ei gyfanrwydd, ewch i’n gwefan:
https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/trefniadau-llywodraethu/eich-gwybodaeth-eich-hawliau/hysbysiadau-preifatrwydd/ 
 

02/06/26
014 Rydyn ni'n gwrando

Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig eich diweddaru, yn enwedig pan fyddwch wedi rhoi o’ch hamser i rannu eich barn gyda ni.
Bydd adroddiad o'r hyn a glywsom yn ystod yr ail gam hwn o'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi, ei ystyried yn llawn a'i drafod fel rhan o gyfarfod y Bwrdd Iechyd, yn ddiweddarach eleni.
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn gyhoeddus, gyda phobl naill ai'n gallu mynychu neu wylio ar-lein. Byddwn yn hysbysebu'r cyfarfod hwn ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Mae manylion cyfarfodydd ein Bwrdd i'w gweld ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/ 
Bydd aelodau'r bwrdd yn ystyried popeth y maent wedi'i glywed cyn ac yn ystod pob cam o'r ymgynghoriad, gan gynnwys yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a dogfennau ategol eraill, yn ogystal â data yr ydym wedi'u casglu ac y cyfeiriwyd atynt yn y ddogfen hon. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i'r amlwg o'r sgyrsiau gyda'n cymunedau.
 

02/06/26
015 Sut y byddwn yn bwydo'n ol

Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau'r cyfnod ymgysylltu hwn a'r adroddiad ymgynghori terfynol ar gyfer y cam hwn o'r Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar ein gwefan. Byddwn yn cyhoeddi'n swyddogol pan fydd ar gael.
Byddwn yn rhannu'r adroddiadau hyn mor eang â phosib gyda phobl sy'n byw yn ein hardal sydd wedi gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Byddwn hefyd yn diweddaru trwy randdeiliaid allweddol, y cyfryngau lleol a'r cyfryngau cymdeithasol. 
Os hoffech dderbyn y diweddariadau hyn, ymunwch â'n cynllun ymgysylltu Siarad Iechyd / Talking Health trwy:
•    ebostio: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
•    ffonio: 0300 303 8322 opsiwn 5 (pris galwad leol) 
•    ysgrifennu at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD. 
Diolch yn fawr.
 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: