Neidio i'r prif gynnwy

Sain

Nid yw pawb yn medru defnyddio dogfennau ysgrifenedig yr ymgynghoriad, felly rydym yn cynnig recordiadau sain o ddogfennau allweddol.   

Trwy wrando ar recordiadau sain o’r ddogfen ymgysylltu strôc a’r holiadur, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd rydym yn darparu rhai o’n gwasanaethau clinigol strôc ar draws rhanbarth Hywel Dda. 

Gellir chwarae’r ffeiliau sain yn uniongyrchol ar y dudalen neu eu lawrlwytho a gwrando arnynt maes o law. Gallwch wrando ar y wybodaeth ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi, boed gartref, wrth deithio neu yn yr awyr agored.   

Mae’r recordiadau sain yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i hygyrchedd a chynhwysiant, gan sicrhau bod gan bawb yn ein cymunedau y cyfle i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu a bod llais pob un yn cael ei glywed.   

Gwrandewch ar y dogfennau ymgysylltu isod.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: