Neidio i'r prif gynnwy

Geirfa

24/7 – 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Gofal acíwt – Gofal ysbyty ar gyfer oriau/dyddiau cyntaf salwch i bobl sy’n ddifrifol wael. Yn canolbwyntio ar brofion, triniaeth a sefydlogi brys.

Uned Strôc Acíwt – Lle mewn ysbyty lle darperir gofal acíwt gan dîm arbenigol strôc.

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd – yn gweithio mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys ysbytai, clinigau cymunedol, meddygfeydd, cartrefi pobl, a mentrau preifat. Maent yn darparu canlyniadau cryf ac ymarferol, sy’n canolbwyntio aratebion ac sy’n cadarnhau bywyd, a hynny drwy ystod unigryw o ymyriadau corfforol, seicolegol a chymdeithasol. Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn derbyn gofal cynhwysfawr ac effeithiol sydd wedi’i bersonoli.

Yng Nghymru mae 13 o broffesiynau wedi’u cynnwys o dan y term ‘Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd’. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd a dietegwyr.

Canolfan Strôc Ranbarthol Gynhwysfawr – Uned strôc acíwt sy’n gallu darparu triniaethau thrombectomi. Maen nhw’n darparu gofal i gleifion dros ranbarth daearyddol ehangach a cheir disgrifiad yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc.

Sgan CT – Mae sgan CT (topograffeg gyfrifiadurol) yn defnyddio pelydrau-x a chyfrifiadur i greu delweddau manwl o’r tu mewn i’r corff. Mae CT angiogram (CTA) yn sgan CT sy’n edrych ar bibellau gwaed yn yr ymennydd.

Diagnosteg – Profion neu weithdrefnau a ddefnyddir i adnabod clefyd neu gyflwr.

Rhyddhau Cynnar â Chymorth – Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer rhai cleifion strôc, fel arfer ibobl sydd ag anabledd ysgafn i gymedrol. Mae’n galluogi adsefydlu gartref yn dilyn strôc trwy dîm amlddisgyblaethol arbenigol. Mae’n darparu adsefydlu strôc ymatebol (o fewn 24 awr) a dwys ym man preswyl y claf dros gyfnod penodol o amser (e.e. chwe wythnos).

Gwasanaeth Strôc Cymunedol Integredig – Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu adsefydlu cymunedol effeithiol cynnar i bob claf strôc sy’n gadael ysbyty. Mae’r tîm yn gweithio gyda’r claf a’i deulu, staff yr uned strôc acíwt a gwasanaethau cymorth eraill gan gynnwys y sector gwirfoddol i sicrhau rhyddhau’r claf cyn gynted â phosib.

Canlyniadau cleifion – Canlyniadau gofal a thriniaeth claf. Gall canlyniadau cleifion gynnwys pethau fel a yw rhywun yn goroesi, pa mor gyflym y maent yn gwella yn feddyliol a chorfforol, pa mor annibynnol ydynt wedyn, ac ansawdd eu bywyd.

Brysbennu fideo cyn ysbyty – Asesiad a wnaed gan dîm ambiwlans, gyda chymorth galwad fideo gyda’r tîm strôc arbenigol, i helpu i fynd â chlaf i’r amgylchedd gofal cywir, cyn gynted âphosib.

Datganiad ansawdd ar gyfer strôc – Dogfen Llywodraeth Cymru sy’n disgrifio sut beth ddylai gwasanaethau strôc fod a beth ddylent wneud. Cafodd ei ddiwygio ym mis Chwefror 2026.

Adsefydlu – Darparu therapi a chefnogaeth barhaus yn ystod ac ar ôl cyfnod acíwt strôc i helpu cleifion i wella ac adennill annibyniaeth. Mae hyn fel arfer mewn uned adsefydlu strôc bwrpasol neu fel rhan o Wasanaethau Strôc Cymunedol Integredig yn y gymuned. 

Strôc Sentinel – Archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal strôc yn y DU. Mae’n casglu gwybodaeth fanwl am y gofal y mae pobl yn ei gaelyn dilyn strôc, o dderbyn i ysbyty, i adsefydlu a rhyddhau.

Strôc – Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy’n peryglu bywyd sy’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Mae hyn yn achosi i rannau o’r ymennydd gael eu difrodi neu farw oherwydd diffyg ocsigen.

Tîm neu wasanaeth arbenigol strôc – Mae tîm neu wasanaeth arbenigol strôc yn grŵp o arbenigwyr sy’n cydweithio’n rheolaidd i reoli cleifion sydd wedi cael strôc. Rhyngddynt, mae ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau penodol i asesu a rheoli problemau sy’n gysylltiedig â strôc.

Uned Adsefydlu Strôc – Man mewn ysbyty lle darperir gofal adsefydlu gan dîm adsefydlu strôc amlddisgyblaethol.

Thrombectomi – Mae thrombectomi yn weithdrefn feddygol sydd wedi’i chynllunio i dynnu thrombws (clot gwaed) o bibell waed, a all fod yn rhydweli neu’n wythïen. Dim ond rhai cleifion sy’n addas ar gyfer thrombectomi, mae hyn yn dibynnu ar y math o strôc a phryd y digwyddodd.

Thrombolysis – Gweithdrefn feddygol sy’n chwistrellu meddyginiaeth i’r corff a all chwalu clotmewn rhydweli neu wythïen ac adfer cyflenwad gwaed i’r ymennydd.

Pwl o Isgemia Dros Dro – Salwch sy’n gallu peri symptomau tebyg i strôc.

Trin a throsglwyddo – Mae cleifion yn derbyn eu hasesiad a’u triniaeth strôc cychwynnol yn yr ysbyty addas agosaf. Yna maen nhw’n cael eu trosglwyddo i uned strôc acíwt am ofal pellach,neu i Ganolfan Thrombectomi yng Nghaerdydd neu Fryste os mai dyma’r driniaeth fwyaf priodol.

Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) – Y sefydliad sy’n gyfrifol am ymateb i argyfyngau yn y gymuned a dod â chleifion i’r ysbyty.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: