Gweler isod yr holl newyddion diweddaraf a diweddariadau ar y sefyllfa Concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei bresenoldeb yn ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o ysbyty Bronglais ym mis Mai 2023. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ledled y DU, gan gynnwys sawl eiddo yng Nghymru.
Rhoddwyd cynlluniau ar waith ym mis Mai 2023, ar ddechrau’r broses arolwg, i reoli’r effaith ar weithrediad gwasanaethau dydd i ddydd yn yr ysbyty a blaenoriaethu argaeledd gwelyau ysbyty.
Gwyddom fod y gwaith arolygu a chamau adferol wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau ein cymuned ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd nesaf tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.