Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 yn dilyn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol.

Sefydlwyd yr Ymchwiliad yn 2017. Mae’n archwilio’r amgylchiadau pan roddwyd cynhyrchion gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1970 a 1991.

Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig (agor mewn dolen newydd).   

Cafodd cleifion ledled y DU, gan gynnwys rhai a dderbyniodd gynhyrchion gwaed tra’n derbyn gofal gan sefydliadau oedd yma cyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu heintio.

Mae’n ddrwg gennym am y loes, y boen a’r dioddefaint a achoswyd i gleifion a’u teuluoedd a’u hanwyliaid.

Mae llu o bobl a grwpiau eiriolaeth fel Hemoffilia Cymru a Grŵp Birchgrove  wedi ymgyrchu’n ddiflino i gynnal ymchwiliad cenedlaethol. Mae’r dewrder, y gwydnwch a’r dyfalbarhad a ddangoswyd gan bawb a ddarparodd dystiolaeth yn wirioneddol ryfeddol. 

Cliciwch yma i ymweld a dudalen Hemoffilia Cymru (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Cliciwch yma i ymweld a dudalen Grŵp Birchgrove (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Rydym wedi cefnogi’r Ymchwiliad i Waed Heintiedig mewn ffordd agored a thryloyw gan rannu’r holl wybodaeth a dogfennaeth berthnasol.      

Ynghyd â chyrff iechyd cyhoeddus eraill, mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu’r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd â chwestiynau am ofal a byddwn yn dilyn y dull Dyletswydd Gonestrwydd ac yn rhannu unrhyw gofnodion meddygol sydd ar gael ar gais. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest gydag unrhyw un sy'n cysylltu â ni. Gallwch ddarllen mwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd (yn agor mewn dolen newydd) ar ein gwefan.

Cliciwch yma i ddarllen fwy am y Dyletswydd Gonestrwydd (agor mewn dolen newydd).

 

Os ydych chi'n poeni y gallech chi neu anwylyd fod wedi cael eich heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig neu yr effeithiwyd arnoch, gallwn drafod hyn gyda chi.

Cysylltwch â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am i 5.00pm (ac eithrio gwyliau banc).

Rhif ffôn: 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1

Ebost: ask.hdd@wales.nhs.uk.

Os ydych yn byw y tu allan i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd. 

Cliciwch yma am rhestr o'r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru (agor mewn dolen newydd)

Os ydych chi neu anwylyd wedi cael anhwylder gwaedu etifeddol, gallwch gysylltu â’r tîm penodol (Gwasanaeth Anhwylder Gwaedu) yn y Ganolfan Hemoffilia yng Nghaerdydd.

Gallwch gysylltu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm:

Ebost: BDNW.InfectedBloodInquiry.Cav@wales.nhs.uk  
Ffôn: 0800 952 0055   

Fel arall, gallwch gysylltu â Hemoffilia Cymru:

Ebost: info@haemophiliawales.org

Cliciwch yma i gysylltu â Haemoffilia Cymru drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein (agor mewn dolen newydd, Saesneg yn unig)

Gwybodaeth bellach

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: