Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda chostau teithio ar gyfer mynychu apwyntiad ysbyty.
Os oes gennych anhawster dychwelyd adref, siaradwch ag aelod o staff, fel y gallant helpu os yn bosibl. Gall prif nyrsys ward a rheolwyr safle ysbyty ystyried talu am dacsi dan gontract os nad oes cludiant amgen ar gael i gleifion oedrannus bregus a theuluoedd ifanc agored i niwed. Y penderfyniad terfynol yw penderfyniad y brif nyrs ward a rheolwr safle'r ysbyty.