Os ydych yn ymuno â ni o dramor, efallai y bydd arnoch angen tystysgrif nawdd er mwyn gwneud cais am fisa i weithio i ni. I wneud cais am dystysgrif nawdd, bydd rhaid i ni gael eich gwiriad gan yr heddlu tramor, geirdaon, a holiadur iechyd galwedigaethol wedi'i lenwi.
Bydd hefyd arnoch agen pasbort cyfredol a phrawf o'ch cyfeiriad i wneud cais am dystysgrif.
Byddwn yn talu am gost y dystysgrif nawdd, ond bydd rhaid i chi dalu am holl gostau'r fisa.
Pan fyddwn wedi gwneud cais am y dystysgrif a'i rhoi i chi, bydd gennych wedyn dri mis i wneud cais am eich fisa cyn i'r dystysgrif ddod i ben. Gan y byddwch yn gweithio yn y GIG, gallwch wneud cais am fisa iechyd a gofal.
Pan gewch gadarnhad bod eich fisa wedi cael ei gymeradwyo, bydd gennych gyfnod o fis i ddod i mewn i'r DU. Pan fyddwch yn cyrraedd y DU, bydd rhaid i chi gasglu ein cerdyn BRP (Trwydded Breswyl Fiometrig) yn brawf o'ch hawl i weithio.