Gall addasu i ymarfer yn y DU fod yn anodd i unrhyw feddyg, ni waeth o le yr ydych yn dod neu ba mor brofiadol yr ydych. Er mwyn eich cefnogi, mae'r GMC yn cynnig gweithdy rhad ac am ddim i gefnogi meddygon sy'n newydd i'r DU.
Yn ystod y gweithdy, byddwch yn cael cyngor ymarferol, yn archwilio senarios moesegol gwahanol y gallech ddod ar eu traws, ac yn dysgu rhagor am ein safonau a'n canllawiau allweddol.
Archebwch eich lle yn y gweithdy GMC rhad ac am ddim yma [yn agor mewn tab newydd]..