Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu a deintydd wrth i chi ymgartrefu yn yr ardal. Rydym hefyd yn cynghori y dylech wybod lle y mae eich fferyllfa a'ch optegydd lleol, rhag ofn y bydd arnoch angen eu cymorth.
Cliciwch ar y dolenni i ddod o hyd i'r gwasanaethau agosaf o ran:
Os byddwch yn symud i'r DU yn barhaol, byddwch yn gymwys i gael triniaeth rad ac am ddim yn ysbytai'r GIG, yn yr un modd â holl drigolion y DU. Os bydd yna restr aros ar gyfer y driniaeth y mae arnoch ei hangen, bydd yn rhaid i chi ymuno â'r rhestr honno. Ni waeth beth yw eich statws preswylio neu eich cenedligrwydd, mae gennych hawl i driniaeth frys am ddim mewn adran damweiniau ac achosion brys neu ganolfan galw heibio y GIG, a hynny ar gyfer trin clefydau heintus penodol neu gyflyrau a achoswyd trwy artaith neu drais.
Cewch wybod rhagor am ofal iechyd mewn argyfwng a'r tu allan i oriau yma (yn agor mewn tab newydd).