A chithau'n gyflogai i BIP Hywel Dda, bydd eich cyflog yn cael ei dalu'n fisol. Yr 20fed o bob mis yw'r diwrnod cyflog fel arfer. Os bydd hwn yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc, byddwch yn cael eich talu ar y diwrnod gwaith diwethaf cyn hynny.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, yna cysylltwch â'r gyflogres ar 01267 235141 neu anfonwch neges e-bost i: NWSSP.PayrollHDUHB@wales.nhs.uk gan nodi eich rhif gweithiwr, sydd i'w weld ar eich slip cyflog.
Chwiliwch am fanc ar y stryd fawr neu ar-lein sy'n gweddu i chi a'ch amgylchiadau. Gwiriwch gyda'r banciau pa ddogfennau y bydd angen i chi fynd gyda chi i agor cyfrif.
Os nad ydych yn wladolyn y DU sy'n adleoli o dramor, ac os oes arnoch angen gwybodaeth a chymorth, cysylltwch â'r tîm recriwtio yma i gael rhagor o gyngor (yn agor mewn tab newydd).