Mae Hywel Dda yn ymrwymedig i ddatblygu gallu arwain meddygon. Rydym yn ymfalchïo yn y gyfres o raglenni arweinyddiaeth feddygol ac amlddisgyblaethol yr ydym wedi'u creu sy'n hyrwyddo, cefnogi ac annog datblygiad a gwelliant parhaus.
Gall addasu i ymarfer yn y DU fod yn anodd i unrhyw feddyg, ni waeth o le yr ydych yn dod na pha mor brofiadol ydych. I'ch cefnogi, mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cynnig gweithdy rhad ac am ddim sydd wedi'i gynllunio i gefnogi meddygon sy'n newydd i'r DU. Yn ystod y gweithdy, byddwch yn cael cyngor ymarferol, a byddwch yn archwilio senarios moesegol gwahanol a allai ddod i'ch rhan. Byddwch hefyd yn dysgu rhagor am ein safonau a chanllawiau allweddol.