P’un a ydych yn symud o fewn ffiniau’r sir, neu’n adleoli i Sir Gaerfyrddin o bell, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ymgartrefu yn eich cartref a’ch cymuned newydd.
Nod yr wybodaeth ar y tudalennau hyn yw eich helpu i ddysgu rhagor am yr adnoddau a'r gwasanaethau sydd ar gael yng Sir Gaerfyrddin.
Os oes arnoch angen cymorth i ddod o hyd i lety, gallwn rannu manylion gwerthwyr tai lleol a darparu llyfrynnau llety. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallwn hefyd gynnig cymorth adleoli o hyd at £8,000 (mae telerau ac amodau yn berthnasol).
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth bellach, cysylltwch â’n tîm recriwtio: recruitmentcampaigns.hdd@wales.nhs.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Sir Gaerfyrddin.