Neidio i'r prif gynnwy

Unedau mân anafiadau

Gall Unedau Mân Anafiadau drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gyda mân anafiadau fel y canlynol:

  • Mân glwyfau
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau
  • Brathiadau pryfed
  • Mân anafiadau i goes, pen neu wyneb (* gweler y nodyn)
  • Cyrff tramor yn y trwyn neu'r glust

Mae angen gweld plant o dan 12 mis oed, gyda mân anafiadau, mewn Adrannau Brys.

Mae Unedau Mân Anafiadau yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol o Ymarferwyr Nyrsio Brys medrus iawn, Nyrsys Brysbennu a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd. Mae Ysbyty'r Tywysog Philip, yn Llanelli, yn uned dan arweiniad meddygon.

Mae rhai wedi'u lleoli ar brif safleoedd ysbytai, sydd ag Adrannau Brys hefyd, ac mae eraill mewn canolfannau gofal iechyd yn y gymuned.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Ar gyfer salwch, sy'n peri pryder i chi, gwiriwch eich symptomau ar y gwirwyr symptomau ar-lein (agor mewn dolen newydd) neu siaradwch â'ch meddyg teulu. Os ydych chi'n ansicr, ffoniwch GIG 111 Cymru.

Gallwch hefyd ymweld â'n tudalen we Damweiniau ac Achosion Brys yma (agor mewn dolen newydd)

Sir Gâr

Ceredigion

Sir Benfro

dwylo dyn

Caplaniaeth

Mae'r tîm caplaniaeth yn cefnogi cleifion, staff ac ymwelwyr.

Meddyg a chlaf yn siarad

Cludiant cleifion

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth neu gael help gyda'r gost…

Testing Alt text

Cysylltwch

Gwybodaeth i gleifion