Neidio i'r prif gynnwy

Damweiniau ac Achosion Brys

Mewn achos o argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd fel:

  • Poen yn y frest
  • Anhawster anadlu
  • Strôc a amheuir
  • Trawiad ar y galon a amheuir
  • Bod yn anymwybodol
  • Colli gwaed yn ddifrifol
  • Tagu
  • Ffitio / confylsiynau
  • Boddi
  • Adweithiau alergaidd difrifol
  • Trawma mawr (damwain draffig ddifrifol ar y ffordd, trywanu, saethu, cwympo o uchder, neu anaf difrifol i'r pen)

peidiwch ag oedi cyn ffonio 999, neu ymweld â'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd gallwch gyrchu gwasanaethau 999 gan ddefnyddio Relay UK. Bydd angen i chi lawrlwytho ap Relay UK i'ch ffôn clyfar neu ddyfais arall. Mewn argyfwng agorwch yr ap a tapiwch y botwm 999 a chadarnhewch i wneud galwad frys. Gallwch hefyd ddefnyddio'r 999 gan ddefnyddio neges destun SMS. Bydd angen cofrestru'ch ffôn gyda'r gwasanaeth ymlaen llaw. I gofrestru anfonwch neges destun gyda’r geiriau ‘cofrestru’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau yn yr ateb a dderbyniwch. Gallwch ddarganfod mwy o'r wefan SMS frys.

I gael mwy o wybodaeth am yr hyn a fydd yn digwydd pan fyddwch yn ffonio 999 cliciwch yma (agor mewn dolen newydd)

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, angen gwybodaeth neu gyngor neu os oes angen manylion fferyllfa neu adran damweiniau ac achosion brys sy'n agos atoch chi, ffoniwch 111.

Cliciwch yma i weld ein tudalen Unedau Mân Anafiadau, os oes angen i chi gael eich trin ar gyfer ystod eang o gyflyrau lefel is (agor mewn dolen newydd)

dwylo dyn

Caplaniaeth

Mae'r tîm caplaniaeth yn cefnogi cleifion, staff ac ymwelwyr.

Meddyg a chlaf yn siarad

Cludiant cleifion

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth neu gael help gyda'r gost…

Testing Alt text

Cysylltwch

Gwybodaeth i gleifion Relay UK Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw…