Neidio i'r prif gynnwy

Profi, Olrhain, Diogelu - yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Wedi'i ddiweddaru 6 Chwefror 2024

 

Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol, dilynwch ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yma.(agor mewn dolen newydd)

Mae’r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth a chyngor ar:

  • Symptomau heintiau anadlol
  • Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol
  • Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych unrhyw rai o brif symptomau COVID-19
  • Plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19
  • Beth ddylech chi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19
  • Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn gyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19
  • Ap COVID-19 y GIG
  • Cyflogaeth ac aros gartref
  • Cymorth ariannol os na allwch chi weithio

Gall unigolion sy’n gymwys ar gyfer triniaethau gwrthfeirol COVID-19 nawr gael profion llif ochrol (LFTs) gan wasanaeth casglu o fferyllfeydd newydd a gyflwynwyd ledled Cymru.

Dylai cleifion sydd mewn risg uwch o COVID-19 ac sy’n gymwys i gael triniaethau gwrthfeirol COVID-19 gadw cyflenwad o’r pecynnau prawf hyn yn eu cartref. Gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n gymwys ar gyfer triniaethau COVID-19 (agor mewn dolen newydd).

Gallwch nawr gael y pecynnau prawf gan fferyllfeydd cymunedol lleol sy'n cynnig y gwasanaeth hwn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dewch o hyd i fferyllfa yn eich ardal chi sy’n cyflenwi profion llif ochrol y GIG (agor mewn dolen newydd)

Daeth y newid hwn i rym yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, gan ddisodli’r trefniadau blaenorol ar gyfer archebu Profion Llif Ochrol drwy’r porth ar-lein (gov.uk) a GIG 119, a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2024.

Dylai unrhyw un sy'n ansicr a ydyw’n gymwys siarad â'u meddyg neu arbenigwr ysbyty a all roi cyngor. Os yn gymwys, gellir casglu profion o fferyllfa gymunedol. Mae trefniadau ar wahân ar waith ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Dylai cleifion fod yn ymwybodol y gall staff y fferyllfa ofyn am eu hanes meddygol i gadarnhau eu bod yn gymwys. Os oes gan glaf gopi o lythyr neu e-bost a anfonwyd gan y GIG sy’n dweud eu bod yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, dylid mynd â hwn i’r fferyllfa, gan y bydd yn helpu’r fferyllfa i gadarnhau eu bod yn gymwys i gael profion am ddim. 

Gall rhywun arall gasglu profion ar ran claf, er enghraifft, ffrind, perthynas neu ofalwr, a bydd angen iddynt hefyd rannu manylion gyda’r fferyllfa i gadarnhau bod y claf yn gymwys, gan gynnwys y manylion hyn:

  • enw llawn
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif GIG (os y war gael)
  • cyflwr/cyflyrau meddygol

Gellir rhoi un neu ddau becyn o 7 LFT fesul cyflenwad i glaf cymwys (neu ei gynrychiolydd). Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn parhau i gael un pecyn fesul cyflenwad drwy’r gwasanaeth fferyllfa, er y gellir darparu pecyn ychwanegol lle bo angen penodol.

I gael rhagor o gymorth gyda’r trefniadau newydd hyn drwy’r Bwrdd Iechyd ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 303 8322.

Mae brechiadau yn dal i fod o'r pwys mwyaf er mwyn amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed. I gael rhagor o wybodaeth am frechiadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i: Rhaglen Frechu COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda (nhs.wales) (agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: