Mae yna lawer o fuddion i fod yn egnïol. Bydd yn eich helpu i gysgu'n well, cynnal pwysau iach, rheoli eich lefelau straen a gwella eich lefelau egni – gall pob un o'r rhain helpu i wella ansawdd eich bywyd. Mae bod yn egnïol yn arbennig o bwysig os ydych yn aros am driniaeth neu'n cael triniaeth. Bydd yn helpu i gryfhau eich calon a'ch ysgyfaint, a bydd hyn, yn ei dro, yn helpu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau cyfredol neu driniaethau yn y dyfodol.
Mae unrhyw weithgaredd sy'n gwneud i chi deimlo ychydig allan o wynt yn fuddiol. Os ydych eisoes yn egnïol, parhewch â hynny neu, os ydych yn teimlo y gallech wneud ychydig yn rhagor, ewch ati. Os nad ydych yn egnïol ar hyn o bryd, neu os ydych yn teimlo y gallech wneud rhagor, dyma'r amser i roi cynnig arni. Ewch ati heddiw, peidiwch â gohirio gwneud. Mae peidio â symud yn ddrwg iawn i'n cyrff gan y bydd ein cyhyrau'n dihoeni'n gyflym, a hyn wedyn yn effeithio ar ein cryfder a'n cydbwysedd. Mae ein cyhyrau, ein hesgyrn a'n cymalau yn hoffi cael eu symud, er y byddant efallai'n crecian a griddfan ychydig.
Os byddwch yn teimlo bod angen hynny, trafodwch unrhyw bryderon a allai fod gennych ynghylch eich gallu i wneud ymarfer â'ch tîm gofal iechyd neu eich meddyg teulu. Peidiwch ag oedi gan fod ymarfer corff yn rhan bwysig iawn o'ch paratoad ar gyfer triniaeth a'ch gallu i gwblhau unrhyw driniaeth.
Os ydych yn simsan ar eich traed neu os ydych wedi cwympo o'r blaen, dylech fod yn hynod o ofalus wrth symud o gwmpas. Rydym am i chi fod yn egnïol, ond nid ydym am i chi gwympo neu eich anafu eich hun. Os ydych yn teimlo bod arnoch angen cymorth ychwanegol, gofynnwch i'ch gweithiwr allweddol neu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol.
Bydd y dolenni isod yn darparu syniadau ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff i chi eu gwneud gartref. Cadwch ddyddiadur o'ch cyflawniadau, i'w rannu â'ch tîm gofal iechyd.
Gwneud Ymarfer Corff gydag arthritis
Fideos Ymarfer Corff y GIG
Canllawiau Ymarfer Corff y GIG
Canllawiau Ymarfer Corff Hawdd gan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Mae yna hefyd amrywiaeth o apiau ffonau symudol ar gael i'w lawrlwytho o Google Play neu'r Apple App Store – ewch i'n tudalen Apiau ac Adnoddau Ffordd o Fyw yma